Teulu Brenhinol y Deyrnas Unedig
Cyfeiria'r term Teulu Brenhinol y Deyrnas Unedig at deulu'r 'Windsors' sydd wedi etifeddu'r teitl, yr arian a'r sylw o fod yn frenhiniaeth y DU.
Aelodau'r teulu brenhinol presennol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig
- Y Tywysog Philip, Dug Caeredin (priod)
- Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru (mab)
- Camilla, Duges Cernyw (gwraig y Tywysog Cymru)
- Y Tywysog William, Dug Caergrawnt (mab y Tywysog Cymru)
- Catherine, Duges Caergrawnt (gwraig y Tywysog William)
- Tywysog Siôr o Gaergrawnt (mab y Tywysog William)
- Y Tywysog Harri (mab y Tywysog Cymru)
- Meghan, Duges Sussex (gwraig y Tywysog Harri)
- Y Dywysoges Anne, Y Dywysoges Frenhinol (merch Elisabeth II)
- Timothy Laurence (priod y Dywysoges Frenhinol)
- Peter Phillips (mab y Dywysoges Frenhinol)
- Zara Phillips (merch y Dywysoges Frenhinol)
- Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog (mab Elisabeth II)
- Y Dywysoges Beatrice o Gaerefrog (merch y Tywysog Andrew)
- Y Dywysoges Eugenie o Gaerefrog (merch y Tywysog Andrew)
- Y Tywysog Edward, Iarll Wessex (mab Elisabeth II)
- Sophie, Iarlles Wessex (gwraig y Tywysog Edward)
- Arglwyddes Louise Windsor (merch y Tywysog Edward)
- James, Viscount Severn (mab y Tywysog Edward)
- ac eraill
Ffasgiaeth a theulu brenhinol Lloegr[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r gwaed Almaenaidd yn nheulu brenhinol Lloegr yn gryf: roedd llinach uniongyrchol Siôr VI ac Edward VIII drwy eu mham Mary of Treck a'u hen-daid y tywysog Albert. Roedd gan y tywysog Phillip bedair chwaer ac roedd tair ohonynt yn aelodau o blaid y Natsiaid ac un yn briod gyda pheilot awyrennau'r Luftwaffe. Ni wahoddwyd teulu Phillip i'w brodas gydag Elizabeth (brenhines Lloegr) yn 1947 oherwydd y cyswllt agos hwn gyda'r Almaen, mor fuan ar ôl y Rhyfel.[1]
Yr un amser, roedd eraill ar wahân i'r teulu brenhinol yn cysylltu eu hunain gyda'r Natsiaid (yn bennaf gan ei fod yr unig fygythiad i Gomiwnyddiaeth) gan gynnwys Tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr. Rhoddodd pob un o'r tim saliwt Natsiaidd cyn y gêm yn Stadiwm Olympaidd Berlin yn 1938, er fod Hitler, ychydig fisoedd ynghynt wedi cymryd drosodd Awstria.
Ceir llawer o luniau o Edward VIII yn rhoi saliwt Natsiaidd a llawer o luniau'n cofnodi iddo gyfarfod Hitler a'i swyddogion yn 1937 a chyn hynny.[1] Hyd yn oed yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd ei ymlyniad i'r Almaen yn fwy nag i Brydain, fel y dywedodd, "It would be a tragic thing for the world if Hitler was overthrown. Hitler is the right and logical leader of the German people. Hitler is a very great man."
Yng Ngorffennaf 2015 cyhoeddodd papur y Sun luniau allan o fideo a gymerwyd yn 1933 neu 1934 yn dangos Elizabeth, brenhines Lloegr yn rhoi saliwt Natsiaidd, yng Nghastell Barmoral gyda'i hewyrth Edward a goronwyd yn frenin Edward VIII yn ddiweddarach. Achosodd hyn embaras mawr i'r teulu brenhinol, gan godi hen grachen cysylltiad Ffasgiaeth â theulu brenhinol Lloegr.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
