Neidio i'r cynnwys

Andrew Mountbatten-Windsor

Oddi ar Wicipedia
Andrew Mountbatten-Windsor
Andrew yn 2017
GanwydY Tywysog Andrew o Gaeredin
(1960-02-19) 19 Chwefror 1960 (65 oed)
Palas Buckingham, Llundain, Lloegr
PriodSarah Ferguson (pr. 1986; ysg. 1996)
Plant
  • Y Dywysoges Beatrice o Gaerefrog
  • Y Dywysoges Eugenie o Gaerefrog
Enw llawn
Andrew Albert Christian Edward
TeuluWindsor
TadY Tywysog Philip, Dug Caeredin
MamElisabeth II

Aelod o deulu brenhinol y Deyrnas Unedig yw Andrew Albert Christian Edward Mountbatten-Windsor, a oedd yn cael ei adnabod gynt fel y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog (ganwyd 19 Chwefror 1960). Ef yw ail fab a thrydydd plentyn Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig a'r Tywysog Philip.

Yn yr 1980au roedd yn adnabyddus am ei wasanaeth milwrol a'r rhan a chwaraeodd yn Rhyfel y Falklands, ac am ei garwriaeth gyda Koo Stark. Ei lysenw a gafodd ers dyddiau ysgol oedd "Randy Andy"[1]. Priododd Sarah Ferguson yn 1986 a cawsant ddau ferch, Eugenie a Beatrice. Gwahanodd y cwpl yn 1992 cyn ysgaru yn 1996, digwyddiad a gafodd gryn dipyn o sylw gan y papurau newyddion tabloid.

Cysylltiadau â Jeffrey Epstein

[golygu | golygu cod]

O ddiwedd y 2010au ymlaen bu Andrew yn rhan o'r sgandal ynghylch y troseddwr rhyw Jeffrey Epstein. Oherwydd ei gysylltiad ag Epstein roedd Andrew eisioes wedi colli ei rôl fel Cynrychiolydd Arbennig y Deyrnas Unedig o ran Buddsoddiad a Masnach Rhyngwladol yn 2011.[2] Honnir iddo gael rhyw gyda merch a oedd o dan oed, sef Virginia Roberts, ar 10 Mawrth 2001.

Ym mis Tachwedd 2019 ymddangosodd ar y rhaglen Newsnight gan wadu'r honiadau hyn.[3] Ar 20 Tachwedd 2019 dywedodd na fyddai'n ymgymryd â dyletswyddau brenhinol rhagor.[4]

Gyda ryddhau ffeiliau Epstein yn 2025 cafwyd rhagor o fanylion am y berthynas a'r dystiolaeth yn erbyn ef a'i gyfaill.

Colli teitlau

[golygu | golygu cod]

Ar 13 Ionawr 2022, collodd y Tywysog y rhan fwyaf o'i deitlau milwrol a'r defnydd o'r teitl Ei Uchelder Brenhinol.[5] Ar 17 Hydref 2025 cytunodd i beidio defnyddio ei deitlau, gan gynnwys y teitl Dug Caerefrog.[6] Bydd yn parhau i fod yn berchen ar ddugiaeth am fod honno wedi ei chreu gan Ddeddf Seneddol.[7]

Ar 30 Hydref 2025, cyhoeddodd y Brenin y byddai proses yn cychwyn i dynnu ei deitl fel Tywysog Andrew ac o hynny ymlaen byddai'n cael ei adnabod fel Andrew Mountbatten Windsor. Bydd hefyd yn gadael ei gartref yn y Royal Lodge gan symud i stâd Sandringham yn Norfolk.[8] Cyhoeddwyd hefyd y byddai'n colli ei deitl anrhydeddus milwrol o Is-Lyngesydd.[9] Gwnaed cyhoeddiad swyddogol am golli ei deitl fel Tywysog, yn The Gazette, dyddiedig 3 Tachwedd 2025.[10]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Andrew yn yr Ystafell Felgaidd ym Mhalas Buckingham ar y 19eg o Chwefror 1960. Ef oedd trydydd plentyn ac ail fab Elizabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig, a'r Tywysog Philip, Dug Caeredin, a thrydydd ŵyr y Frenhines Elizabeth, y Fam Frenhines. Cafodd ei fedyddio yn Ystafell Gerddoriaeth y palas ar 8 Ebrill 1960 gan Archesgob Caergaint ar y pryd, sef Geoffrey Fisher. Ei rieni bedydd oedd y Tywysog Henry, Dug Caerloyw; y Dywysoges Alexandra, Arglwyddes Anrhydeddus Ogilvy; John Elphinstone, Arglwydd Elphinstone; Hugh FitzRoy, Iarll Euston; a Georgina, yr Arglwyddes Kennard, a chafodd ei enwi ar ôl ei dad-cu ar ochr ei dad, y Tywysog Andrew o Wlad Groeg a Denmarc.

Penodwyd athrawes i edrych ar ôl y tywysog, fel y gwnaethpwyd gyda'i frawd a'i chwaer, a hi oedd yn gyfrifol am ei addysg gynnar ym Mhalas Buckingham. Yna, danfonwyd Andrew i Ysgol Baratoi Heatherdown cyn iddo fynychu Gordonstoun yng ngogledd yr Alban ym mis Medi 1973. Graddiodd Andrew ym mis Gorffennaf ddwy flynedd yn ddiweddarach gyda Lefel A mewn Hanes, Economeg a Gwyddor Wleidyddol. Nid aeth Andrew i'r brifysgol ond mynychodd Goleg Llyngesol Brenhinol Brittania yn Dartmouth.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. http://www.express.co.uk/news/royal/471095/Koo-Stark-s-racy-past-ended-her-relationship-with-Prince-Andrew Express; cyrchwyd 11 Hydref 2014
  2. "Prince Andrew: Envoy career plagued with controversy". BBC News (yn Saesneg). 2011-03-07. Cyrchwyd 2026-02-17.
  3. "As it happened: Prince Andrew's Interview". BBC News. 16 Tachwedd 2019. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2019.
  4. Quinn, Ben (20 November 2019). "Prince Andrew to step back from public duties 'for foreseeable future'". The Guardian. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2019.
  5. "Prince Andrew loses military titles and patronages". BBC News (yn Saesneg). 13 Ionawr 2022. Cyrchwyd 13 Ionawr 2022.
  6. "Y Tywysog Andrew yn ildio ei holl deitlau brenhinol". newyddion.s4c.cymru. 17 Hydref 2025. Cyrchwyd 17 Hydref 2025.
  7. "Prince Andrew latest: 'I must go a step further' - Duke explains move to give up royal title". Sky News (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Hydref 2025.
  8. Davies, Caroline (30 Hydref 2025). "Prince Andrew to be stripped of titles and move out of Royal Lodge". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 30 Hydref 2025.
  9. "Andrew Mountbatten Windsor 'i golli ei deitl milwrol olaf'". newyddion.s4c.cymru. 2025-11-06. Cyrchwyd 2025-11-06.
  10. "King officially strips Andrew of prince title". BBC News (yn Saesneg). 2025-11-06. Cyrchwyd 2025-11-06.