Neidio i'r cynnwys

Jeffrey Epstein

Oddi ar Wicipedia
Jeffrey Epstein
FfugenwMarius Robert Fortelni Edit this on Wikidata
Ganwyd20 Ionawr 1953 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
Bu farw10 Awst 2019 Edit this on Wikidata
o crogi Edit this on Wikidata
Metropolitan Correctional Center, New York City Edit this on Wikidata
Man preswylLittle Saint James, Palm Beach, Herbert N. Straus House, Rancho de San Rafael, Sea Gate Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sefydliad Cyrsiau'r Gwyddorau Mathemategol
  • Cooper Union
  • Lafayette High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethathro, bancwr buddsoddi, human trafficker, dyngarwr Edit this on Wikidata
Swyddcadeirydd, trustee Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Jeffrey Epstein VI Foundation
  • Towers Financial Corporation
  • Bear Stearns Edit this on Wikidata
TadLi Hwak G. Epstein Edit this on Wikidata
MamPauline Epstein Edit this on Wikidata
PartnerGhislaine Maxwell, Eva Andersson-Dubin Edit this on Wikidata
llofnod

Ariannwr o'r Unol Daleithiau oedd Jeffrey Edward Epstein (20 Ionawr 195310 Awst 2019) a gafwyd yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant.[1][2] Dechreuodd ei yrfa yn y byd ariannol gyda'r banc buddsoddi Bear Stearns, cyn iddo sefydlu cwmni ei hunan, J. Epstein & Co. Cafwyd yn euog o droseddau rhyw yn 2008 am reoli criw o buteiniaid dan oed a gawsant eu gorfodi i gael cyfathrach rywiol â phobl uchel eu statws yng nghylchoedd arianneg, gwleidyddiaeth, a diwylliant.[3]

Dechreuodd ymchwiliad gan heddlu Palm Beach, yn 2005 wedi i Epstein gael ei gyhuddo o gyffwrdd merch 14 oed mewn modd rhywiol. Fe blediodd yn euog ac yn 2008 fe'i dyfarnwyd yn euog gan lys taleithiol yn nhalaith Florida o lithio putain ac o gaffael merch dan 18 oed i buteinio. Yn sgil bargen ei ble, bwriodd 13 mis dan glo gyda chaniatâd i adael y ddalfa i weithio. Cydnabuwyd 36 o ferched, yr ieuangaf ohonynt yn 14 oed, yn ddioddefwyr yn ôl yr awdurdodau ffederal.[4][5] Yn ogystal, mae Epstein wedi ei gyhuddo gan nifer o unigolion o ddal menywod a merched dan oed yn gaethweision rhyw.[6]

Arestiwyd Epstein unwaith eto ar 6 Gorffennaf 2019 ar gyhuddiadau ffederal o fasnachu plant dan oed am ryw yn nhaleithiau Florida ac Efrog Newydd.[7][8]

Bu farw ar 10 Awst 2019, wedi crogi ei hunan yn ei gell mewn carchar ym Manhattan, yn ôl y sôn.[9][10][11] Tair wythnos ynghynt, cafwyd hyd i Epstein yn anymwybodol yn y ddalfa gydag anafiadau i'w wddf, a phenderfynwyd ei wylio'n gyson am chwe diwrnod i atal hunanladdiad. Daeth y cyfnod hwnnw o wyliadwriaeth i ben deuddeng niwrnod cyn ei farwolaeth.[12] Wedi awtopsi ar 11 Awst, datganodd swyddfa archwiliwr meddygol Dinas Efrog Newydd bod angen rhagor o wybodaeth cyn pennu achos y farwolaeth, ond hunanladdiad ydy'r rhagdybiaeth.[13] Mynegodd nifer o bobl ddrwgdybiaeth o'r stori honno, a bu ymchwiliad ffederal ar y gweill i farwolaeth Epstein.[14][15]

Ar 19 Tachwedd 2019 cyhuddwyd y gwarchodwyr carchar Michael Thomas a Tova Noel, gan erlynwyr ffederal yn Efrog Newydd, o ffugio cofnodion a chynllwynio. Roedd recordiad fideo o'r carchar yn datgelu fod Epstein wedi bod yn ei gell am wyth awr heb neb yn ei wylio, yn groes i reolau, cyn cael ei ganfod yn farw.[16][17][18]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Jeffrey Epstein Charged in Manhattan Federal Court With Sex Trafficking of Minors" (Press release). U.S. Attorney's Office for the Southern District of New York. 8 Gorffennaf 2019. https://www.justice.gov/usao-sdny/pr/jeffrey-epstein-charged-manhattan-federal-court-sex-trafficking-minors. Adalwyd 8 Gorffennaf 2019.
  2. Lewis, Paul (4 Ionawr 2015). "Jeffrey Epstein: The rise and fall of teacher turned tycoon". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2016.
  3. "Who Was Jeffrey Epstein Calling? A close study of his circle—social, professional, transactional—reveals a damning portrait of elite New York". New York. 22 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2019.
  4. Brown, Julie (28 Tachwedd 2018). "How a future Trump Cabinet member gave a serial sex abuser the deal of a lifetime". Miami Herald. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2018.
  5. Buncombe, Andrew (2 Ionawr 2015). "Jeffrey Epstein: the billionaire paedophile with links to Bill Clinton, Kevin Spacey, Robert Maxwell – and Prince Andrew". The Independent. London, England. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Medi 2015. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2016.
  6. Saul, Emily; Denney, Andrew; Eustachewich, Lia (2019-08-09). "Jeffrey Epstein's alleged 'sex slave' reveals the men she claims she was forced to sleep with". New York Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-08-10.
  7. Shallwani, Pervaiz; Briquelet, Kate; Siegel, Harry (6 Gorffennaf 2019). "Jeffrey Epstein Arrested for Sex Trafficking of Minors". The Daily Beast. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2019.
  8. Chaitin, Daniel (7 Gorffennaf 2019). "Jeffrey Epstein arrested for sex trafficking of minors in Florida and New York". Washington Examiner. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2019.
  9. "Canfod y miliwnydd Jeffrey Epstein yn farw yn ei gell yn Efrog Newydd", Golwg360 (10 Awst 2019). Adalwyd ar 12 Awst 2019.
  10. Rashbaum, William K.; Weiser, Benjamin; Gold, Michael (10 Awst 2019). "Jeffrey Epstein Dead in Suicide at Jail, Spurring Inquiries". The New York Times. Cyrchwyd 10 Awst 2019.
  11. Zapotosky, Matt; Barrett, Devlin; Merle, Renae; Leonnig, Carol D. (10 Awst 2019). "Jeffrey Epstein dead after apparent suicide in New York jail". The Washington Post. Cyrchwyd 10 Awst 2019.
  12. Watkins, Ali (2019-08-10). "Why Wasn't Jeffrey Epstein on Suicide Watch When He Died?". The New York Times. Cyrchwyd 2019-08-10.
  13. Johnson, Alex; Madani, Doha; Winter, Tom (11 Awst 2019). "After autopsy, cause of Jeffrey Epstein's death awaits 'further information'". NBC News.
  14. "Ymchwiliad ffederal i farwolaeth Jeffrey Epstein", Golwg360 (11 Awst 2019). Adalwyd ar 12 Awst 2019.
  15. "Carchar lle bu farw Jeffrey Epstein yn “brin o staff”", Golwg360 (12 Awst 2019). Adalwyd ar 12 Awst 2019.
  16. "Jeffrey Epstein's Prison Guards Are Indicted On Federal Charges". NPR.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-11-19.
  17. "Epstein guards charged with falsifying records" (yn Saesneg). 2019-11-19. Cyrchwyd 2019-11-19.
  18. https://www.justice.gov/usao-sdny/press-release/file/1218466/download