Bear Stearns

Oddi ar Wicipedia
The Bear Stearns Companies, Inc.
Math o fusnes
Cyhoeddus
Byrfodd stocNYSE: BSC
DiwydiantGwasanaethau buddsoddi
Tyngedcaffaelwyd gan JPMorgan Chase
Sefydlwyd1 Mai 1923
DiddymwydMawrth 2008
PencadlysDinas Efrog Newydd
Pobl allweddol
Alan Schwartz, cyn Brif Weithredwr
James Cayne, cyn Gadeirydd a Phrif Weithredwr
CynnyrchGwasanaethau ariannol
Bancio buddsoddi
Rheolaeth buddsoddiadau
Rhiant-gwmniJPMorgan Chase
bear.com

Banc buddsoddi a chwmni brocer a masnachu gwarantau oedd The Bear Stearns Companies, Inc. neu Bear Stearns ar lafar. Sefydlwyd yn Ninas Efrog Newydd ym 1923 gan Joseph Ainslie Bear, Robert B. Stearns, a Harold C. Mayer. Trodd yn gwmni cyhoeddus yn 1985 ac erbyn yr 21g Bear Stearns oedd un o brif gwmnïau ariannol y byd. Cyn iddo fethu, prif feysydd cwmni oedd marchnadoedd cyfalaf, bancio buddsoddi, rheolaeth cyfoeth, a gwasanaethau clirio, ac yn un o euogion yr argyfwng morgeisiau Americanaidd yn y 2000au. Aeth i'r wal yn 2008 yn ystod yr argyfwng ariannol byd-eang a chafodd ei werthu i JPMorgan Chase.

Yn y cyfnod cyn ei fethiant, bu Bear Stearns yn ymwneud yn fwyfwy â gwaranteiddio, a chyhoeddwyd niferoedd mawr o warantau ased, yn enwedig morgeisiau.[1] Wrth i golledion buddsoddwyr yn y marchnadoedd hynny gynyddu yn 2006 a 2007, ni cheisiodd y cwmni rwystro ei ran yn yr argyfwng morgeisiau. Ym Mawrth 2008, benthycwyd arian i Bear Stearns gan Fanc y Gronfa Ffederal yn Efrog Newydd mewn ymgais i atal cwymp y cwmni. Nid oedd modd achub Bear Stearns a fe'i gwerthwyd i JPMorgan Chase am $10 y cyfranddaliad.[2] Yn Ionawr 2010, rhoddai JPMorgan y gorau i ddefnyddio enw Bear Stearns.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lowenstein, Roger The End Of Wall Street, Penguin Press 2010, pp.xvii,22 ISBN 978-1-59420-239-1
  2. Sorkin, Andrew Ross (2008-03-24). "JPMorgan Raises Bid for Bear Stearns to $10 a Share". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2018-03-16.
  3. Bear Stearns Brand Finally Fades, Two Years After Collapse