The Washington Post
Jump to navigation
Jump to search
Math | Papur newydd dyddiol |
---|---|
Fformat | Argrafflen |
Golygydd | Martin Baron |
Sefydlwyd | 1877 |
Pencadlys |
1301 K Street NW Washington, D.C. |
Gwefan swyddogol | www.washingtonpost.com |
Papur newydd mwyaf a hynaf Washington, D.C., prifddinas yr Unol Daleithiau, yw The Washington Post.
Ar ddechrau'r 1970au, dan olygyddiaeth Ben Bradlee, y gohebyddion Bob Woodward a Carl Bernstein a ddatgelodd rhan yr Arlywydd Richard Nixon yn sgandal Watergate, ac o ganlyniad i'r sgandal hwnnw ymddiswyddodd Nixon yn 1974.
Prynwyd y Post am $250 miliwn gan Jeff Bezos, sylfaenydd Amazon.com, yn 2013. Ers Chwefror 2017, pryd fu'r Arlywydd Donald Trump yn lladd yn gyson ar y cyfryngau – y Post, The New York Times a CNN yn enwedig – argraffir yr arwyddair Democracy Dies in Darkness ar ben y dudalen flaen.