Neo-ryddfrydiaeth

Oddi ar Wicipedia

Mae Neo-ryddfrydiaeth yn ideoleg sydd yn dadlau bod yr economi'n gweithio'n fwy effeithlon os bydd marchnad cwbl rydd, heb ymyrraeth neu rwystrau gan lywodraeth neu fonopoli.

Yn ôl cefnogwyr yr ideoleg bydd cystadleuaeth rydd rhwng gwerthwyr, gwerthu nwyddau a gwasanaethau'n dod a'r ddarpariaeth gorau i'r cyhoedd a manteision mwyaf a ran graddfa cynhyrchiant, codi safonau byw, cyfleon, rhyddid, symudiad, tyfiant a datblygiadau i'r dyfodol.

Y Term[golygu | golygu cod]

Yr economegydd Friedrich Hayek
Yr economegydd Milton Friedman

Mae'r term Neo-ryddfrydiaeth (Saesneg: Neoliberalism) yn ddisgrifiad ar gyfer defnydd newydd (Lladin: neo = newydd) neu ddiweddariad o syniadau'r 19g ynglẏn ag economeg laisse-faire (laisse-faire = 'gadael llonydd' yn Ffrangeg, hynny yw gadael llonydd i'r farchnad rydd, heb reolaeth neu gyfyngiadau).[1][2]

Hanes y theori[golygu | golygu cod]

Datblygodd theori Neo-ryddfrydiaeth ymhlith ysgolheigion Ewropeaidd yn y 1930au fel 'trydedd ffordd' rhwng dau brif theori economaidd y cyfnod, rhyddfrydiaeth glasurol a chynllunio sosialaidd er mwyn osgoi ail adrodd problemau economaidd difrifol.[3]

Ail gododd y term yn y 1980au i ddisgrifio polisïau economaidd yr unben asgell-dde Augusto Pinochet yn Tsile o dan ddylanwad syniadau'r economegwyr Friedrich Hayek, Milton Friedman a'r Ysgol Chicago.[4][5]

Mae Neo-ryddfrydiaeth yn cael ei chysylltu'n bennaf gyda pholisïau economaidd radicalaidd a chyflwynwyd gan Margaret Thatcher a Ronald Reagan yn y 1980au a dilynwyd gan Tony Blair a Bill Clinton yn y 1990au. Yn y cyfnod yma bu symudiad mawr tuag at breifateiddio, dadreoli, toriadau yng ngwariant y llywodraeth, trethi is ar gyfer y cyfoethog a thorri budd-daliadau i'r dlawd.

Yr 'Oes neo-ryddfrydol'[golygu | golygu cod]

Erbyn degawd y 2000 daeth Neo-ryddfrydiaeth i fod yn brif ideoleg economaidd y byd gan ddisodli syniadau a theorï Economeg Keyenes. Roedd syniadau John Maynard Keynes wedi bod yn ddylanwad mawr ar theori economeg ac ar bolisïau economaidd llawer o lywodraethau o'r 1950au i'r 1970au. Credodd yn groes i'r neo-ryddfrydwyr y dylai'r llywodraeth ymyrryd yn yr economi i wrthweithio effeithiau mwyaf eithafol y cylch economaidd.

Mae rhai yn cyfeirio at y cyfnod ers troad y mileniwm fel yr oes neo-ryddfrydol.[6]

Serch hynny mae cefnogwyr mwyaf brwd y farchnad yn dadlau nid yw system farchnad rydd go iawn byth wedi cael ei gweithredu hyd yn oed yn yr Unol Daleithiau. Maent yn dadlau bod y llywodraeth yn ymyrryd yn ormodol ym mywydau’r unigolion ac yn yr economi, er enghraifft trwy osod lefel cyfraddau llog y banciau er mwyn rheoli'r economi a di-golledi banciau sy'n mynd yn fethdalwyr.[7]

Diffiniad manwl[golygu | golygu cod]

Yn yr adroddiad Cyffes Accra - Cyngor Cyffredinol Cynghrair Eglwysi Diwygiedig y Byd diffinnir neo-ryddfrydiaeth fel y ganlyn:

Yn ei gweithgaredd ryngwladol o dra-arglwyddiaethu, mae neo-ryddfrydiaeth yn cyfeirio at athroniaeth wleidyddol-economaidd sy’n dad-bwysleisio neu’n gwrthod ymyrraeth llywodraeth neu arall yn yr economi; bydd yn caniatau i’r farchnad weithredu heb gyfyngiadau nag amddiffyniadau. Yng nghyd-destun yr UD a Chanada, mae economeg neo-ryddfrydol wedi’i phlethu’n fwy gyda syniadau gwleidyddol ceidwadol a neo-geidwadol na rhai rhyddfrydol. Mae economeg neo-ryddfrydol yn canol-bwyntio ar ddulliau marchnad rydd, llai o gyfyngiadau ar weithrediadau busnes a hawliau eiddo, yn hytrach na hawliau dynol. Mae’n hybu’r farchnad trwy fod yn rym sylfaenol gweithgaredd economaidd dynol, gan bwysleisio cystadleuaeth a thwf a chynnal hunan-fudd unigolion dros fudd pawb. Mae polisïau economaidd neo-ryddfrydol yn cynnwys preifateiddio gwasanaethau fel addysg, dŵr a gofal iechyd; dadreoleiddio sy’n aml yn esgor ar lai o hawliau ac amddiffyniadau i weithwyr a’r amgylchedd; gostyngiadau mewn gwariant llywodraeth ar raglenni cymdeithasol, fel addysg, ac erydiadau yn y rhwyd ddiogelwch ar gyfer y tlawd; llif rhydd buddsoddiadau, cynnyrch a swyddi (ond yn nodweddiadol, dim pobl) ar draws ffiniau cenedlaethol heb gyfyngiadau a masnachu cynyddol.[8]

Beirniadaeth o Neo-ryddfrydiaeth[golygu | golygu cod]

2010-2011 protesiadau yn Groeg yn erbyn methiant banciau a pholisi'r llywodraeth i dorri gwariant cyhoeddus

Mae beirniadaeth yr ideoleg yn cynnwys:[9][10][11][11][12]

  • O dan Neo-ryddfrydiaeth mae'r llywodraeth, yn hytrach na pheidio ag ymyrryd yn yr economi, yn ymyrryd yn helaeth i ffafrio diddordebau busnes ac i atal hawliau dinasyddion (er enghraifft trwy ddefnyddio'r heddlu a llysoedd i atal undebau llafur)
  • Bod diffyg cyfle i reoli'r farchnad yn tynnu grym oddi ar gymunedau rhag siapio'r eu bywydau yn ôl eu hanghenion ac er gwell y byd o'u hamgylch.
  • Heb reolaeth bydd trachwant dynol yn arwain at y cyfoethog yn mynd yn fwy gyfoethog ar draul pawb arall, ecsploetio, anghyfiawnder a manteisio ar rhai rhy wan i'w wrthwynebu.
  • Bu llawer yn gweld neo-ryddfrydiaeth yn brif rheswm dros yr argyfwng ariannol y byd a dechreuodd gyda nifer o fanciau'n fynd yn fethdalwyr yn 2007-8. Roedd diffyg rheolaeth ar fanciau wedi arwain at fenthyg ormod o arian er mwyn gwneud yr elw mwyaf posibl ond heb boeni am y risg.
  • Yn aml dim ond bobl gyda digon o arian neu grwpiau breintiedig sydd yn gallu manteisio ar y farchnad. Er enghraifft mewn system iechyd preifat ble mae'r unigolion yn gorfod talu cwmni preifat am yswiriant ar gyfer costau triniaethau - bydd bobl tlawd yn debygol o fethu fforddio yswriant iechyd. Hefyd bydd y cwmni yswiriant yn debygol o wrthod yswirio pobl hen neu'n sâl iawn am eu bod yn debygol o angen triniaethau drud a fydd yn lleihau elw'r cwmni. O dan system o'r fath bydd llawer o'r bobl mwyaf angheus yn methu gweld meddyg neu fynd i'r ysbyty.
  • Bod diffyg cefnogaeth yn arwain at is-ddosbarth o bobl heb ddigon o arian ac yn byth yn gallu gwella eu sefyllfa trwy fanteisio ar ddarpariaeth y farchnad ar gyfer prynu nwyddau hanfodol, neu systemau addysg ac iechyd os bydd rhaid talu.
  • Yn achosi Ras i'r Gwaelod ble mae cystadleuaeth yn arwain at leihau safonau byw a rheolaeth. Mae llwyddiant busnes a llywodraeth i dorri eu costau trwy dalu cyflogau mor isel â phosibl yn arwain at eu gweithwyr yn methu fforddio prynu cynnyrch neu dalu trethi.[13]
  • Yn newidiol i'r hinsawdd, diwylliannau a diogelwch bobl - heb reolaeth bydd cwmnïau'n ecsploetio adnoddau'r ddaear a phobl heb boeni am yr effaith yn eu hymdrechion parhaus i wneud yr elw mwyaf.
  • Mae gor-bwysleisio'r angen i gystadlu a hunan-fudd unigolion yn arwain at golli gwerthoedd teuluol, cymunedol a chyd-weithio.[14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Taylor C. Boas, Jordan Gans-Morse (June 2009). "Neoliberalism: From New Liberal Philosophy to Anti-Liberal Slogan". Studies in Comparative International Development 44 (2): 137–161. doi:10.1007/s12116-009-9040-5. ""Neoliberalism has rapidly become an academic catchphrase. From only a handful of mentions in the 1980s, use of the term has exploded during the past two decades, appearing in nearly 1,000 academic articles annually between 2002 and 2005. Neoliberalism is now a predominant concept in scholarly writing on development and political economy, far outpacing related terms such as monetarism, neoconservatism, the Washington Consensus, and even market reform.""
  2. Noel Castree (2013). A Dictionary of Human Geography. Oxford University Press. t. 339. ‘Neoliberalism’ is very much a critics term: it is virtually never used by those whom the critics describe as neoliberals.
  3. Philip Mirowski, Dieter Plehwe, The road from Mont Pèlerin: the making of the neoliberal thought collective, Harvard University Press, 2009, ISBN 0-674-03318-3, p. 14-15: "An understanding of neoliberalism needs to take into account its dynamic character in confronting both socialist planning philosophies and classical lassiez-faire liberalism, rather than searching for timeless (essentialist) content."
  4. https://en.wikipedia.org/wiki/Chicago_school_of_economics
  5. Philip Mirowski, Dieter Plehwe, The road from Mont Pèlerin: the making of the neoliberal thought collective, Harvard University Press, 2009, ISBN 0-674-03318-3
  6. http://folk.uio.no/daget/neoliberalism.pdf Archifwyd 2015-02-09 yn y Peiriant Wayback., Dag Einar Thorsen & Amund Lie Department of Political Science University of Oslo
  7. https://en.wikipedia.org/wiki/Libertarian_conservatism Libertarian conservatism
  8. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-02-01. Cyrchwyd 2015-07-18.
  9. Baker, Dean. 2006. "Increasing Inequality in the United States.[3]" Post-autistic Economics Review 40.
  10. http://www.theguardian.com/commentisfree/2015/jan/25/greece-shows-what-can-happen-when-young-revolt-against-corrupt-elites
  11. 11.0 11.1 Peet, Richard. "Neoliberalism and Nature: The Case of the WTO". Annals of the American Academy of Political and Social Science, Vol 590 November 2003
  12. https://soundcloud.com/desolationradio/55-desolation-does-theory-introduction-to-neoliberalism
  13. <http://www.channel4.com/news/low-wages-money-earnings-record-employment-pay>
  14. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-24. Cyrchwyd 2015-07-18.
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.