Y Tywysog Philip, Dug Caeredin
Y Tywysog Philip, Dug Caeredin | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Philip of Greece and Denmark ![]() 10 Mehefin 1921 ![]() Mon Repos ![]() |
Bu farw | 9 Ebrill 2021 ![]() o old age ![]() Castell Windsor ![]() |
Man preswyl | Palas Buckingham, Castell Windsor, Castell Balmoral, Tŷ Sandringham, Palas Holyrood, Clarence House ![]() |
Dinasyddiaeth | Y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr polo, swyddog milwrol ![]() |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, llywydd corfforaeth, Dug Caeredin ![]() |
Cyflogwr | |
Tad | Andreas o Wlad Groeg a Denmarc ![]() |
Mam | Alis o Battenberg ![]() |
Priod | Elisabeth II ![]() |
Plant | y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru, y Dywysoges Anne, Y Dywysoges Frenhinol, y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog, y Tywysog Edward, Iarll Wessex ![]() |
Llinach | teulu Mountbatten, House of Glücksburg ![]() |
Gwobr/au | Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Croix de guerre 1939–1945, Urdd Rhosyn Wen y Ffindir, Uwch Groes Urdd y Condor o'r Andes, Cadwen Frenhinol Victoria, Medal Albert, Urdd yr Eliffant, Uwch Goler Urdd Tywysog Harri, Urdd Seland Newydd, President's Medal, Grand Cordon of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Grand Cross of the Military Order of Christ, Grand Cross of the Military Order of Avis, Grand Cross of the Military Order of the Tower and Sword, Urdd Brenhinol y Seraffim, Medal Pen-blwydd ar achlysur 25 mlynedd ers sefydlu Ymerodraeth Iran, Marchog Uwch Groes gyda Choler Urdd Sant Olav, Uwch Croes Urdd Siarl III, Marchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Croes Fawr Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Knight of the Order of Australia, Urdd y Gwaredwr, Livingstone Medal ![]() |
Roedd Tywysog Philip, Dug Caeredin KG KT OM GBE AC QSO PC (ganwyd Tywysog Philip o Wlad Groeg a Denmarc, 10 Mehefin 1921 – 9 Ebrill 2021)[1] yn aelod o deulu Brenhinol y Deyrnas Unedig, yn ŵr i Frenhines Elisabeth II.
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd Philip yn Mon Repos, Corfu, Gwlad Groeg.[2]
Roedd yn wreiddiol yn dywysog brenhinol Gwlad Groeg a Denmarc. Ers iddo newid ei genedligrwydd, cafodd ei adnabod fel Philip Mountbatten.
Ar 19 Tachwedd 1947 fe'i gwnaed yn Farchog y Gardas Aur,[3] a chael yr hawl i gael ei gyfeirio ato gyda'r arddull "Uchelder Brenhinol".[4]
Tywysog Cydweddog i'r Frenhines[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar 20 Tachwedd 1947 priododd y Dywysoges Elizabeth, edling y Brenin Siôr VI, a'i ddyrchafu yn Ddug Caeredin, Iarll Meirionnydd a Barwn Greenwich. Cafodd ei urddo yn Dywysog y Deyrnas Unedig ym 1957.
Bu'r Tywysog Philip ar wasanaeth gweithredol yn y Llynges Frenhinol drwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Ar ddiwedd y rhyfel oedd ar y llong ryfel HMS Whelp yn y Môr Tawel, a fu'n bresennol ym Mae Tokyo ar gyfer ildio Siapan ar 2 Medi 1945.
Ef oedd yr aelod cyntaf o'r Teulu Brenhinol Prydeinig i gael ei gyfweld ar y teledu ym mis Mai 1961. Teithiodd gyda'r Frenhines ar bob un o'i theithiau brenhinol.
Cafodd y Frenhines Elizabeth a'r Tywysog Philip pedwar o blant: Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru; Y Dywysoges Anne, Y Dywysoges Frenhinol; Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog a'r Tywysog Edward, Iarll Wessex. Mae ganddynt hefyd wyth o wyrion ac wyth o or-wyrion.
Ymddeoliad[golygu | golygu cod y dudalen]
Ymddeolodd o'i ddyletswyddau brenhinol ar 2 Awst 2017, yn 96 oed.
Ym mis Chwefror 2021 aeth i'r ysbyty am driniaeth gan aros yno am fis, cyn mynd adre ar 16 Mawrth.[5]
Bu farw ar fore Gwener, 9 Ebrill 2021 yng Nghastell Windsor. [6] Cyhoeddwyd y newyddion ganol dydd ar gyfrif Twitter y teulu brenhinol.[7]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Prince Philip has died aged 99, Buckingham Palace announces (en) , BBC News, 9 Ebrill 2021.
- ↑ About The Duke of Edinburgh
- ↑ List of the Knights of the Garter (1348-present) - Heraldica (Rhif 902)
- ↑ The London Gazette: 21 Tachwedd 1947, Rhif 38128, Tud 5495
- ↑ Prince Philip: Duke of Edinburgh leaves hospital after a month (en) , BBC News, 9 Ebrill 2021.
- ↑ Tywysog Philip, Dug Caeredin wedi marw yng Nghastell Windsor , Golwg360, 9 Ebrill 2021.
- ↑ @RoyalFamily (2021-04-09). "It is with deep sorrow that Her Majesty The Queen has announced the death of her beloved husband, His Royal Highness The Prince Philip, Duke of Edinburgh. His Royal Highness passed away peacefully this morning at Windsor Castle" (Trydariad) – drwy Twitter.