Castell Windsor
Gwedd
| Math | Residence of the British Royal Family, castell, palas brenhinol, palas, tŷ bonedd Seisnig, amgueddfa tŷ hanesyddol |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Windsor |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Casgliad Brenhinol y Deyrnas Unedig |
| Lleoliad | Windsor |
| Sir | Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 180 troedfedd |
| Gerllaw | Afon Tafwys |
| Cyfesurynnau | 51.4839°N 0.6044°W |
| Cod OS | SU9700277033 |
| Cod post | SL4 1NJ |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | Gothig Sythlin |
| Perchnogaeth | y Goron, teulu brenhinol y Deyrnas Unedig |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig |
| Manylion | |
Lleolir Castell Windsor yn nhref Windsor, Berkshire, De-ddwyrain Lloegr; dyma'r castell cyfannedd mwyaf yn y byd. Mae'n dyddio'n ôl i oes Gwilym Gwncwerwr, a hwn yw'r castell hynaf i gael ei gyfanheddu'n barhaol. Mae'n un o gestyll enwocaf y byd. Mae arwynebedd llawr y castell yn mesur tua 484,000 troedfedd sgwar (tua 45,000 medr sgwar).

Ynghyd â Phalas Buckingham yn Llundain a Phalas Holyrood yng Nghaeredin, mae'n un o gartrefi swyddogol teulu brenhinol Prydain. Mae'r Frenhines Elizabeth II yn treulio nifer o benwythnosau yn y castell, gan ei ddefnyddio ar gyfer adloniant brenhinol a phreifat. Ei chartrefi eraill, Tŷ Sandringham a Chastell Balmoral, yw cartrefi preifat y teulu brenhinol Prydeinig.
