Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead
| Math | ardal an-fetropolitan, ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref |
|---|---|
| Prifddinas | Maidenhead |
| Poblogaeth | 150,906 |
| Sefydlwyd | |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 196.5017 km² |
| Cyfesurynnau | 51.4667°N 0.6667°W |
| Cod SYG | E06000040 |
| GB-WNM | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Windsor and Maidenhead Borough Council |
![]() | |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead. Saif Castell Windsor, cartref Teulu Brenhinol y Deyrnas Unedig, yn y fwrdeistref; am y rheswm hwn mae'n cynnwys y gair "brenhinol" yn ei henw.
Mae gan yr ardal arwynebedd o 197 km², gyda 150,906 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Reading a Bwrdeistref Wokingham i'r gorllewin, Bwrdeistref Slough i'r dwyrain, Swydd Buckingham i'r gogledd a Surrey i'r de.

Ffurfiwyd y fwrdeistref ar 1 Ebrill 1974 fel ardal an-fetropolitan o dan reolaeth yr hen sir an-fetropolitan Berkshire. Pan ddiddymwyd y cyngor sir ar 1 Ebrill 1998, daeth y fwrdeistref yn awdurdod unedol.
Lleolir pencadlys yr awdurdod yn Maidenhead. Mae aneddiadau eraill yn ardal yr awdurdod yn cynnwys trefi Ascot, Eton a Windsor, a'r pentrefi mawr Bray, Cookham, Datchet, Sunningdale, Sunninghill a Wraysbury.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 13 Ebrill 2020
