Y Tywysog Edward, Dug Caeredin
Gwedd
| Y Tywysog Edward | |
|---|---|
| Dug Caeredin | |
Edward yn 2022 | |
| Ganwyd | Edward Anthony Richard Louis 10 Mawrth 1964 Palas Buckingham, Llundain, Lloegr |
| Priod | Sophie Rhys-Jones (pr. 1999) |
| Plant |
|
| Teulu | Windsor |
| Tad | Y Tywysog Philip |
| Mam | Elisabeth II |
Brawd ieuengaf Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig, yw Edward Anthony Richard Louis, Dug Caeredin (ganwyd 10 Mawrth 1964).
Cafodd ei eni ym Mhalas Buckingham, yn fab i'r Frenhines Elisabeth II a'i gŵr y Tywysog Philip, Dug Caeredin. Priododd Sophie Rhys-Jones ar 19 Mehefin 1999, ac ar y diwrnod hwnnw rhoddwyd y teitl Iarll Wessex iddo. Gwnaed ef yn Ddug Caeredin ar ei ben-blwydd yn 59 oed yn 2023.
Mae'n is-Noddwr Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad.
Plant
[golygu | golygu cod]- Y Fonesig Louise Windsor (g. 2003)[1]
- James, Iarll Wessex (g. 2007)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Royal baby born prematurely". BBC News (yn Saesneg). 8 Tachwedd 2003. Cyrchwyd 11 Mai 2010.