Brenhiniaeth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ffurf ar lywodraeth gwladwriaeth yw brenhiniaeth sy'n ymgorffori sofraniaeth ym mherson brenin neu frenhines. Mae gwerin bobl brenhiniaeth yn ddeiliaid i'r goron yn hytrach na dinasyddion fel mewn gweriniaeth.

Breniniaethau yn y byd

Mae'r Deyrnas Unedig yn frenhiniaeth gyfansoddiadol ac hefyd gwledydd megis Gwlad Belg, Denmarc, Sweden, Yr Iseldiroedd, a Norwy yn Ewrop. Ystyr brenhiniaeth gyfansoddiadol yw fod y brenin neu'r frenhines wedi rhoi cyfran o'i sofraniaeth i senedd y wladwriaeth. Mae yna wledydd yn y byd sydd â brenhiniaeth unbeniaethol megis Sawdi Arabia, Brwnei, Nepal, Gwlad Swasi, neu sydd â brenhiniaeth sydd bron yn unbeniaethol megis Gwlad Iorddonen, Ciwait, Qatar a Liechtenstein.

Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.