Cenedl-wladwriaeth
Gwedd
| Enghraifft o: | state model |
|---|---|
| Math | gwladwriaeth sofran |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05f97 |
| Thesawrws y BNCF | 36785 |
| Gwleidyddiaeth |
|---|
|
Safbwyntiau |
| Geirfa |
Math o wladwriaeth sy'n bodoli i ddarparu tiriogaeth sofranaidd ar gyfer cenedl yw cenedl-wladwriaeth. Mae'r wladwriaeth yn fro wleidyddol a daearwleidyddol, a'r genedl yn fro ddiwylliannol ac/neu ethnig; awgrymir y cysyniad o'r genedl-wladwriaeth eu bod yn cyd-ddigwydd yn ddaearyddol, yn wahanol i fathau eraill o'r wladwriaeth a fodolont ers talwm.
Yn ymarferol, mae dinasyddion cenedl-wladwriaeth yn rhannu iaith, diwylliant, a dull o fyw tebyg. Byddai byd o genedl-wladwriaethau yn gweithredu'r hawl i annibyniaeth ac ymreolaeth ar gyfer pob genedl, cysyniad craidd yn ideoleg cenedlaetholdeb.