Meghan Markle
Gwedd
| Meghan Markle | |
|---|---|
| Ganwyd | Rachel Meghan Markle 4 Awst 1981 Los Angeles, Canoga Park |
| Man preswyl | Los Angeles, Toronto, Nottingham Cottage, Frogmore Cottage, Toronto, Montecito |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor, actor teledu |
| Adnabyddus am | Suits |
| Tad | Thomas Markle |
| Mam | Doria Ragland |
| Priod | Trevor Engelson, Y Tywysog Harry |
| Partner | Cory Vitiello |
| Plant | Archie o Sussex, Lilibet Mountbatten-Windsor |
| Llinach | Tŷ Windsor |
| Gwobr/au | Gwobr Time 100, Gwobr Time 100 |
| Gwefan | https://www.royal.uk/the-duchess-of-sussex, https://sussexroyal.com |
| llofnod | |
Actores ac aelod o Deulu Brenhinol y Deyrnas Unedig yw Rachel Meghan Markle (ganwyd 4 Awst 1981)[1]. Mae'n wraig i'r Tywysog Harri a chafodd y teitl Duges Sussex pan briododd.
Fe'i ganed yn Los Angeles, Califfornia a chafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Northwestern. Roedd yn un o sêr y gyfres deledu Suits rhwng 2011 a 2017.
Er bod Markle wedi ysgaru, caniataodd yr Eglwys Anglicanaidd iddi briodi'r Tywysog Harry yng Nghapel San Siôr, Castell Windsor, ar 19 Mai 2018, gyda Justin Welby, Archesgob Caergaint, yn gwasanaethu.[2] Rhoddodd Meghan enedigaeth i'w mab, Archie Mountbatten-Windsor, ym mis Mai 2019.[3] Teithiodd y teulu i Dde Affrica yn hydref 2019.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Boyle, Danny (8 Tachwedd 2016). "Who is Meghan Markle? Everything we know about Prince Harry's girlfriend". The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2016.
- ↑ Ruffini, Karen (2018). "Who's Officiating The Royal Wedding? Justin Welby Is The Archbishop Of Canterbury" (yn Saesneg). Elite Daily. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mai 2018. Cyrchwyd 19 Mai 2018.
- ↑ Barry, Ellen; Karasz, Palko (6 May 2019). "Meghan, Duchess of Sussex, gives birth to a boy". The New York Times (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Mai 2019. Cyrchwyd 6 Mai 2019.