Brutus

Oddi ar Wicipedia
Gweler hefyd brut a brud. Am lofrudd Iŵl Cesar, gweler Marcus Junius Brutus. Am y llenor a phregethwr o'r 19eg ganrif, gweler David Owen (Brutus).
"Carreg Brutus," Totnes

Brutus, yn ôl Sieffre o Fynwy (c. 1090 - 1155) yn ei ffug-hanes dylanwadol Historia Regum Britanniae (Hanes Brenhinoedd y Brythoniaid), oedd cyndaid y Brythoniaid a roes ei enw i Ynys Brydain. Roedd ganddo dri mab, sef Locrinus, Camber ac Albanactus. Nid oes sail hanesyddol o gwbl i'r hanes, ond am ganrifoedd fe'i coelwyd gan nifer o hanesyddion.

Ceir y cyfeiriadau cynharaf at Frutus yng ngwaith Nennius (fl. dechrau'r 9g). Yn yr Historia Brittonum dywed yr hanesydd fod Ynys Brydain wedi ei henwi ar ôl 'Brutus, conswl Rhufeinig.'

Datblygir y chwedl gan Sieffre o Fynwy. Yn ôl Sieffre, yr oedd Brutus yn fab i Silvius mab Ascanius a ddaeth yn arweinydd gwŷr Caerdroea (cartref chwedlonol y Brythoniaid). Cafodd freuddwyd tra'n cysgu ar groen ewig yn Nheml Diana ar Ynys Leogetia. Yn y weledigaeth gwelodd ynys baradwysaidd yn y gorllewin a chafodd wybod mai ei dynged oedd hwylio yno gyda phobl Caerdroea a'i chyfaneddu.

Ar ôl nifer o anturiaethau glaniodd Brutus a'i ddilynwyr yn Totnes yn ne Prydain. Ar ôl gorchfygu'r cawr Gogmagog, sefydlodd ddinas newydd iddo'i hun a enwodd yn Gaer Droea Newydd. Cyflwynodd ddeddfau i'r trigolion. Enwyd yr ynys ar ei ôl yn Ynys Brydain.

Roedd ganddo dri mab ac ar ôl ei farwolaeth rhanwyd Ynys Brydain rhyngddynt. Cafodd y mab hynaf Locrinus deyrnas Lloegr (Loegria), rhoddwyd Yr Alban (Albany) i Albanactus, a chafodd y mab ieungaf Camber deyrnas Cymru (Cambria). Mae enwau'r meibion hyn yn deillio o enwau'r gwledydd hynny yn Gymraeg, wedi'u Lladineiddio. Mae'r ffaith fod Sieffre yn dangos Locrinus fel y mab hynaf - a Lloegr fel y deyrnas fwyaf - yn adlewyrchu gwleiddyddiaeth ei oes, gyda Lloegr newydd ei goresgyn gan y Normaniaid.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • A. O. H. Jarman, Sieffre o Fynwy (Caerdydd, 1966). Cyflwyniad darllenadwy i waith Sieffre.
  • Dafydd Glyn Jones, Agoriad yr Oes (Y Lolfa, 2001). ISBN 0-86243-603-6
  • (eto), Cyfrinach Ynys Brydain (Darlith Flynyddol BBC Cymru, 1992)
  • (eto), Gwlad y Brutiau (Darlith Goffa Henry Lewis, 1990)
  • John Morris (gol.), Nennius British History and The Welsh Annals (Llundain, 1980)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]