Albanactus

Oddi ar Wicipedia

Brenin cyntaf yr Alban yn ôl Sieffre o Fynwy yn ei ffug hanes Historia Regum Britanniae oedd Albanactus. Roedd yn un o dri mab Brutus, sefydlydd chwedlonol Prydain, gyda Camber a Locrinus.

Ar farwolaeth eu tad, cafodd Locrinus Loegria (Lloegr), cafodd Camber wlad Cambria a chafodd Albanactus Albania (yr Alban). Llofruddiwyd Albanactus gan Humber, brenin yr Huniaid, a ddaeth o Germania i oresgyn Albania. Bu rhaid i bobl Albanactus ffoi am gymorth i wlad Locrinus. Digwyddodd hyn, yn ôl chwedl Sieffre, cyn i'r Pictiaid a'r Albanwyr ddod i Brydain. Defnyddiwyd y ffug hanes hwn gan frenhinoedd Lloegr - yn enwedig Edward I - i hawlio awdurdod dros yr Alban a cheisio ei goresgyn. Defnyddiwyd yr un ddadl yn achos Cymru am fod Camber, fel Albanactus, yn frawd iau Locrinus.

Ym mytholeg yr Alban ei hun ni cheir fawr o le i Albanactus (ac mae'r ychydig amdano yn deillio o "hanes" Sieffre): honnai'r Albanwyr eu bod yn ddisgynyddion o Gaidel Glas (sy'n cynrychioli'r Gael) a'i wraig Scota (sy'n cynrychioli'r Scotti, y Gwyddelod a ymsefydlodd yn yr Alban).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Henry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)