Llwybr Arfordir Sir Gaerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Un o'r teithiau sy'n cychwyn ar lwybr yr arfordir ac yn arwain i'r wlad: Taith Sant Illtyd, ger Pen-bre.

Mae Llwybr Arfordir Sir Gaerfyrddin yn llwybr hir sy'n ymestyn o Amroth yn ne-orllewin Bae Caerfyrddin, i dre Caerfyrddin ei hunan ac i Gasllwchwr yn ne-ddwyrain y sir. Mae ei hyd yn 109 km o un pen i'r llall.

Y machlud o Gefn Sidan.

Mae'n un o wyth llwybr rhanbarthol ar Lwybr Arfordir Cymru, sy'n 870 milltir o hyd ac a agorwyd yn 2012.[1]

Ymlith y lleoedd sydd ar y llwybr mae: Pentwyn, Talacharn, Caerfyrddin, Cydweli, Porth Tywyn a Llanelli. Ymhlith y llefydd diddorol ar y daith mae: cartref Dylan Thomas yn Nhalacharn ac ar ochr ddwyreiniol y llwybr, ger tref Llanelli, mae Canolfan Gwlyptiroedd Cenedlaethol Cymru.

Is-lwybrau lleol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft:

  1. Llwybr y Tywi. Yng Nghaerfyrddin mae man cychwyn y daith hon, sy'n 55 milltir (88 km). Mae'n dilyn Afon Tywi, a cheir cip ar Gaerfyrddin, y Garn Goch a oedd yn fryngaer o Oes yr Haearn.
  2. Llwybr Afon Teifi. Dyma lwybr 73 milltir (118 km) sy'n cychwyn yng Nghenarth (OS: SN267416) ac yn diweddu ger Llambed. Ystyrir yr afon hon fel un o'r goreuon yng Nghymru o ran ei physgod, ac mae'r golygfeydd yma hefyd yn wych.
  3. Sanclêr i Lansteffan. 9 milltir (14 km) ydy hyd y llwybr hwn. Mae'n cychwyn wrth adfeilion Castell Sanclêr sy'n dyddio'n ôl i'r 12g, cyn ymlwybro'n ei flaen drwy dir fferm ac ar i lawr tuag at Lansteffan. Ceir oddi yma olygfa wych o Ynys Bŷr sy'n cael ei henwi ar ôl y mynach cynnar Pŷr (digwydd ei enw yn ail ran enw tref Maenorbŷr, ar y tir mawr cyferbyn â'r ynys, yn ogystal).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "All-Wales Coast Path Nears Completion". Newyddion y BBC. BBC. 17 Hydref 2011. Adalwyd 2 Ionawr 2012.