Caer Fawr, Llangadog
Jump to navigation
Jump to search
Math | bryn, caer lefal, copa ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ![]() |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 392 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.902°N 3.905°W, 51.902°N 3.9037°W ![]() |
Cod OS | SN69122432 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 36 metr ![]() |
Rhiant gopa | Carneddau ![]() |
Cadwyn fynydd | Bannau Brycheiniog ![]() |
![]() | |
Dynodwr Cadw | CM037a ![]() |
Bryngaer o Oes yr Haearn ydy'r Gaer Fawr, wedi'i chodi ar fryn o'r enw y Garn Goch, ger Llangadog, Sir Gaerfyrddin a phedair milltir i'r dwyrain o Landeilo (Cyfeirnod OS: SN 690 243) ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Saif y Garn Goch 213 metr uwchlaw lefel y môr. Prynwyd y tir yn 1980 gan y Parc Cenedlaethol. Ceir siambrau claddu o Oes yr Efydd o fewn y muriau. Mae hi'n un o fryngaerau mwyaf Cymru, ac yn 11.2 hectar o ran arwynebedd.