Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
| Math | gardd fotaneg |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Llanarthne |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 70.3 metr |
| Cyfesurynnau | 51.8376°N 4.1518°W |
| Cod post | SA32 8HG |
![]() | |
Gerddi, parcdir a chanolfan ymchwil botanegol ger Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, yw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Fe'i sefydlwyd yn y flwyddyn 2000 fel rhan o ddathliadau'r Mileniwm. Cafodd yr ardd ei datblygu ar safle 568 acer hen Neuadd Middleton ger Llanarthne, yn Nyffryn Tywi. Canolbwynt yr ardd yw'r tŷ gwydr un-rhychwant anferth, y mwyaf o'i fath yn y byd, a gynlluniwyd gan y pensaer Norman Foster.[1] Mae'r tŷ gwydr yn cynnwys planhigion o gynefinoedd sydd dan fygythiand yng ngwahanol rannau o'r byd, gan gynnwys Awstralia, De Affrica, Chile, Califfornia a Môr y Canoldir.
Derbyniwyd £22.25 miliwn o arian loteri trwy Gomisiwn y Mileniwm i'w sefydlu.[2] Mae'n cael ei hariannu gan roddion a thâl mynediad a grantiau gan Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Great Glasshouse by Foster + Partners. Architects Journal (14 Medi 2000). Adalwyd ar 13 Gorffennaf 2018.
- ↑ £1.4m i'r Ardd Fotaneg. Newyddion BBC Cymru (14 Tachwedd 2005). Adalwyd ar 13 Gorffennaf 2018.
