Llywodraeth Cymru

Oddi ar Wicipedia
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Llywodraeth Cymru (Saesneg: Welsh Government) yw'r llywodraeth ar gyfer Cymru sy'n cynnwys y Prif Weinidog a'i Gabinet. Hyd mis Mai 2011, yr enw oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru (Saesneg: Welsh Assembly Government). Newidiwyd yr enw er mwyn osgoi dryswch rhwng y llywodraeth ei hun sydd, fel pob llywodraeth, yn gorff gweithredol, a Senedd Cymru, sy'n gorff deddfwriaethol.[1] Fe'i cyfansoddwyd dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; mae Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig neu unrhyw lywodraeth a senedd arall. Y corff democrataidd, etholedig, sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Senedd Cymru.[2] Hyd at Mai 2020 yr enw ar Senedd Cymru oedd 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru'.

Aelodau'r Cabinet a Gweinidogion[golygu | golygu cod]

Dyma gyfansoddiad presennol Llywodraeth Cymru (ers 13 Mai 2021):[3]

Portffolio Enw Etholaeth Plaid Tymor
Prif Weinidog Mark Drakeford AS Gorllewin Caerdydd Llafur 2018–
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans AS Gŵyr Llafur 2021–
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan AS Canolbarth a Gorllewin Llafur 2021–
Gweinidog yr Economi Vaughan Gething AS De Caerdydd a Phenarth Llafur 2021–
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths AS Wrexham Llafur 2021–
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt AS Bro Mogannwg Llafur 2021–
Y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James AS Gorllewin Abertawe Llafur 2021–
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles AS Castell-Nedd Llafur 2021–
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Mick Antoniw AS Pontypridd Llafur 2021–

Dirprwy Weinidogion[golygu | golygu cod]

Portfolio Name Constituency Party Term
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Lynne Neagle AS Torfaen Llafur 2021–
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS Gogledd Caerdydd Llafur 2018–
Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip Dawn Bowden AS Merthyr Tudful a Rhymni Llafur 2021–
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters AS Llanelli Llafur 2021–
Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Hannah Blythyn AS Delyn Llafur 2021–

Adrannau[golygu | golygu cod]

Dyma'r adrannau Llywodraeth Cymru.

  • Swyddfa'r Prif Weinidog
    • Yr is-adran Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhyng-lywodraethol
    • Adran Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Adran yr Economi, Sgilliau a Chyfoeth Naturiol
  • Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau
  • Adran yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Carwyn Jones unveils three new faces in Welsh cabinet. BBC (13 Mai 2011).
  2. "Cynulliad Cenedlaethol Cymru". 8 Medi 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-04. Cyrchwyd 30 Ebrill 2012.
  3.  Tîm newydd i arwain Cymru i ddyfodol mwy disglair. Llywodraeth Cymru (13 Mai 2021).

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.