Tŷ gwydr
![]() | |
Math | adeiladwaith pensaernïol, adeilad fferm, fifariwm, nodwedd ardd ![]() |
---|---|
Rhan o | building-integrated agriculture ![]() |
![]() |

Adeilad lle caiff planhigion eu tyfu ydy tŷ gwydr. Mae gan y strwythr do gwydr neu blastig tryloyw, ac yn aml waliau gwydr neu blastig hefyd. Cynhesir y planhigion a'r pridd y tu mewn i'r adeilad gan ymbelydredd solar o'r haul. Mae'r awyr twym, sydd wedi ei gynhesu gan arwynebedd poeth y tu mewn i'r strwythr, yn aros yn yr adeilad. Mae tai gwydr yn amrywio o faint sied fach i adeiladau mawr iawn.
Gellir rhannu tai gwydr yn rhai gwydr a rhai phlastig. Y math o blastig a ddefnyddir gan amlaf yw ffilm PE a dalen eml wal PC neu PMMA. Mae tai gwydr masnachol yn gyfleusterau cynhyrchu llysiau a blodau o dechnoleg uwch. Llenwir rhai gwydr ag offer sgrinio, cynhesu, oeri a goleuo a all cael eu rheoli'n awtomatig gan gyfrifiadur.
Mae'r gwydr a ddefnyddir mewn tai gwydr yn gweithio fel cyfrwng trawsyriant o wahanol amlderau sbectrol. Mae hwn yn cadw egni y tu mewn i'r tŷ gwydr, sy'n cynhesu'r planhigion a'r pridd oddi mewn. O ganlyniad mae'r awyr yn agos i'r ddaear yn cael ei gynhesu a'i atal rhag codi a dianc. Gellir dangos hyn drwy agor ffenestr fechan yn agos i'r to fel y bo'r tymheredd yn gostwng. Yr egwyddor hon yw sail y system oeri awtomatig, autovent. Mae tai gwydr yn gweithio trwy ddal ymbelydredd electromagnetig ac atal darfudiad. Gelwir tŷ gwydr bach iawn yn ffram oer.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- May Woods, Glass houses: history of greenhouses, orangeries and conservatories (Llundain: Aurum Press, 1988)
- Olivier de Vleeschouwer, Greenhouses and conservatories (Paris, Flammarion: 2001)
- Erwin W B van den Muijzenberg, A history of greenhouses (Wageningen, Yr Iseldiroedd: Institute for Agricultural Engineering, 1980)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Cynllunio ac adeiladu tŷ gwydr Archifwyd 2012-02-09 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) North Carolina State University Greenhouse Food Production Archifwyd 2009-03-05 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cynhyrchiad Tomato Organig mewn Tai Gwydr Archifwyd 2006-02-09 yn y Peiriant Wayback