Hen Dywodfaen Coch

Oddi ar Wicipedia

Carreg sy'n bwysig iawn ar gyfer paleontoleg yw Hen Dywodfaen Coch. Ceir haenau Hen Dywodfaen Coch yng Nghymru, Yr Alban, gorllewin a gogledd Lloegr ac yn ardal Omagh, Gogledd Iwerddon. Mae'n garreg waddodol liw goch neu frown a ffurfiwyd yn ystod y Cyfnod Defonaidd.

Mae Hen Dywodfaen Coch yn waddod creigiau Silwraidd wedi'u herydu ar ôl i'r tir godi mewn canlyniad i ffurfiad Pangaea ac wedi casglu mewn dŵr (efallai mewn deltâu afonydd). Mae haenau Hen Dywodfaen Coch yn gallu bod yn drwchus iawn (hyd at 11,000m mewn rhai lleoedd) ac mae llawer o ffosilau yn y garreg.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gwnaeth Henry Thomas de la Beche, Roderick Murchison ac Adam Sedgwick astudiaethau ar yr Hen Dywodfaen Coch.