Baner Cymru

Oddi ar Wicipedia
Baner Cymru
Enghraifft o'r canlynolbaner endid gweinyddol o fewn un wlad, baner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyn, gwyrdd, coch Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluTua: 655 OC
DechreuwydYn ei ffurf bresennol: 1959
Genrehorizontal bicolor flag, charged flag Edit this on Wikidata
Yn cynnwysy Ddraig Goch Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Daeth baner Cymru (a elwir hefyd y Ddraig Goch) yn faner swyddogol Cymru yn 1959. Mae'n dangos draig goch ar faes gwyrdd a gwyn. Am gyfnod, ymddangosodd y ddraig ar fryn gwyrdd, ond mae'r hanneriad llorweddol yn draddodiadol. Hi yw'r unig faner o un o wledydd y Deyrnas Unedig nad yw'n ymddangos ar Faner yr Undeb. Y rheswm hanesyddol am hyn oedd statws gwleidyddol Cymru yng nghyfundrefn gyfreithiol a gweinyddol coron Loegr yn dilyn y Deddfau Uno (1536–1543).

Cymru, Bhwtan a Malta yw'r unig wledydd cyfredol sydd â draig ar eu baneri, er y bu ddraig ar faner Tsieina yn ystod Brenhinllin Qing.

Y Ddraig Goch fel baner y Cymry[golygu | golygu cod]

Defnydd cynharaf[golygu | golygu cod]

Cadwaladr[golygu | golygu cod]

Cadwaladr yn mynd i frwydr dan faner y ddraig goch. (Eglwys Llandaf, Caerdydd)

Fel arwyddlun, defnyddiwyd y ddraig goch ers teyrnasiad Cadwaladr, Brenin Gwynedd o tua 655 OC.[1] Disgrifir y ddraig Goch Gymreig yn aml fel "Draig Goch Cadwaladr" am y rheswm hwn.[2] Mae cerddi Taliesin yn diweddarach yn cyfeirio at ddychweliad Cadwaladr (tua 655 i 682) a dyfodiad rhyddid o'r Sacsonaidd. Serch hynny efallai fod y rhain cyn hyned â diwedd y 7fed ganrif, ac yn sôn am y "draig ffaw ffyst gychwyned".[3]

Owain Glyndŵr[golygu | golygu cod]

c. 1400 - c. 1416, Y Ddraig Aur, safon frenhinol Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, wedi ei godi dros Caernarfon yn ystod Brwydr Twthil yn 1401 yn erbyn y Saeson.

Adnabuwyd baner Owain Glyndŵr fel 'Y Ddraig Aur'. Fe'i codwyd yn enwog dros Gaernarfon yn ystod Brwydr Tuthill yn 1401 yn erbyn y Saeson. Dewisodd Glyndŵr i chwifio safon draig aur ar gefndir gwyn, y safon draddodiadol a ddefnyddiodd Uthr Benddraig, fel arewinydd y Brythoniaid Celtaidd cyntaf wrth iddynt frwydro yn erbyn y Sacsoniaid bron i 1,000 o flynyddoedd ynghynt, cyn iddo drosglwyddo'r symbol i’w fab y Brenin Arthur.[4][5][6]

Adroddir Adam o Wysg mai draig aur Glyndwr oedd y defnydd cyntaf o safon draig a ddefnyddiwyd mewn rhyfel gan filwyr Cymru ar y 1af o Dachwedd, 1401.[7] [8] Ychwanega'r hanesydd John Davies fod y ddraig a godwyd gan Glyndŵr yn symbol o fuddugoliaeth i'r Brythoniaid Celtaidd.[9]

Dan reolaeth Saesnig/Prydeinig[golygu | golygu cod]

Ni ddaeth y ddraig goch yn fathodyn herodrol brenhinol swyddogol tan 1800, pan gyhoeddodd Siôr III warant brenhinol yn cadarnhau'r bathodyn.[10]

Yn 1901, ychwanegwyd y ddraig goch i arfbais Tywysog Cymru Brenhiniaeth Prydain gan y brenin.[11]

Yn y pen draw, cynigiodd y palas Brydeinig gyfaddawd ar ffurf bathodyn brenhinol newydd yn ystod blwyddyn y coroni yn 1953. Ailgynlluniwyd y ddraig draddodiadol ac ychwanegwyd coron gyda'r arwyddair 'Y DDRAIG GOCH DDYRY CYCHWYN'.[12]

Bathodyn Brenhiniaeth Prydain Cymru 1953

Dirmygodd Winston Churchill, y prif weinidog ar y pryd, gynllun y bathodyn, fel y datgelir yng nghofnod canlynol y Cabinet o 1953:

Winston Churchill:

"Odious design expressing nothing but spite, malice, ill-will and monstrosity.
Words (Red Dragon takes the lead) are untrue and unduly flattering to Bevan."

Gwilym Lloyd George:

"Wd. rather be on R[oyal] Arms. This (dating from Henry VII) will be something.
We get no recognition in Union – badge or flags.[13]"

Anfodlonrwydd[golygu | golygu cod]

Ym 1959, gollyngwyd defnydd y Llywodraeth o'r faner hon o blaid y faner bresennol[14] [15] ar anogaeth Gorsedd y Beirdd.[16]

Defnyddiwyd y bathodyn gan Swyddfa Cymru[17] a chafodd ei argraffu ar Offerynnau Statudol a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.[18] Defnyddiwyd y bathodyn o'r blaen yn logo corfforaethol y Cynulliad nes i'r logo "draig ddeinamig" gael ei fabwysiadu.[19]

Disodlwyd y bathodyn Brenhinol hwn gan fathodyn Brenhinol swyddogol newydd yn 2008, a ddileodd y ddraig goch yn gyfan gwbl.[20]

Baneri modern[golygu | golygu cod]

Baner 1908 Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch

Ym phasiant cenedlaethol Cymru 1909, mae'r ddraig Gymreig yn ymddangos yn sefyll ar gefndir gwyn. Mae'r ddraig Gymreig sy'n ymddangos ar y faner ar fwrdd Terra Nova Capten Scott hefyd yn ddraig sefyll ar gefndir gwyn a gwyrdd. Hyd at y pwynt hwn, nid oedd fersiwn safonol o'r ddraig Gymreig.[21]

Defnyddiwyd y ddraig ar faneri yn ystod digwyddiadau'r bleidlais i fenywod yng Nghymru yn y 1900au a'r 1910au. Roedd dogfennau derbyn y faner yn sywddogol yn cynnwys un nodyn gan un o gyn-aelodau “Gweithiwyd y faner gan Mrs Henry Lewis… [hi] hefyd oedd Llywydd Ffederasiwn Cymdeithasau Pleidlais Merched De Cymru + bu’n arwain adran De Cymru o’r Bleidlais Fawr Gorymdaith yn Llundain ar 17 Mehefin 1911, yn cerdded o flaen ei baner hardd ei hun… Bu’n achlysur gwych, rhyw 40,000 i 50,000 o ddynion + merched yn cymryd rhan yn y daith gerdded o Whitehall drwy Pall Mall, St James’s Street + Piccadilly i’r Albert Hall. Denodd y ddraig lawer o sylw – “Dyma’r Diafol” oedd cyfarchiad un grŵp o wylwyr.” [22]

Baner presennol Cymru[golygu | golygu cod]

Y Ddraig Goch

Fel arwyddlun, mae draig goch Cymru yn bresennol ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.[23]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Llywelyn, Mared (2017). Y Ddraig yn Nychymyg a Llenyddiaeth y Cymry c.600 – c.1500. Aberystwyth University. https://pure.aber.ac.uk/portal/files/26607451/Llywelyn_Mared.pdf. Adalwyd 25 September 2022.
  2. Sikes, Wirt (1881). British Goblins: Welsh Folk Lore, Fairy Mythology, Legends and Traditions (yn Saesneg). J. R. Osgood.
  3. Williams, Sir Ifor (1960). Canu Taliesin. Gwasg Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 25 September 2022.
  4. Hackett, Martin (15 July 2014). Lost Battlefields of Wales. Amberley Publishing. ISBN 9781445637037 – drwy Google Books.
  5. Davies, John (25 Ionawr 2007). A History of Wales. Penguin. ISBN 9780140284751 – drwy Google Books.
  6. Breverton, Terry (15 May 2009). Owain Glyndwr: The Story of the Last Prince of Wales. Amberley Publishing. ISBN 9781445608761 – drwy Google Books.
  7. Jones, Francis (1969). The Princes and Principality of Wales (yn Saesneg). University of Wales P. t. 177. ISBN 978-0-900768-20-0.
  8. Ramsay, Sir James Henry (1892). Lancaster and York: A Century of English History (A.D. 1399-1485) (yn Saesneg). Clarendon Press.
  9. Davies, John (2007-01-25). A History of Wales (yn Saesneg). Penguin Publishing Group. ISBN 978-0-14-028475-1.
  10. Maxwell Fyfe, David (9 February 1953). "Arms for Wales; Memorandum by the Secretary of State for the Home Department and Minister for Welsh Affairs" (PDF). nationalarchives.gov.uk. Cyrchwyd 2020-04-15.
  11. "Page 8714 | Issue 27385, 10 December 1901 | London Gazette | The Gazette". www.thegazette.co.uk. Cyrchwyd 2023-09-10.
  12. Eriksen, Thomas Hylland; Jenkins, Richard (2007-10-18). Flag, Nation and Symbolism in Europe and America (yn Saesneg). Routledge. t. 80. ISBN 978-1-134-06696-4.
  13. "Highlights of new Freedom of Information releases in August 2007 > The Cabinet Secretaries' Notebooks (CAB 195/11) > Arms for Wales". The National Archives (United Kingdom). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 November 2007.
  14. Barraclough, Edward Murray Conrad (1965). Flags of the World (yn Saesneg). Warne.
  15. "WELSH FLAG (Hansard, 23 February 1959)". hansard.millbanksystems.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-06. Cyrchwyd 2023-02-15.
  16. Lofmark, Carl (1995). A History of the Red Dragon. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0-86381-317-8.
  17. "Office of the Secretary of State for Wales – GOV.UK". www.walesoffice.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-13. Cyrchwyd 2023-02-15.
  18. "Welsh Statutory Instruments – Town and Country Planning, Wales" (PDF). opsi.gov.uk.
  19. "BBC NI – Learning – A State Apart – Intergovernmental Relations – Overview". BBC. 2014.
  20. "First Welsh law's royal approval" (yn Saesneg). 2008-07-09. Cyrchwyd 2022-09-22.
  21. Phillips, Elen (1 March 2012). "Captain Scott's Welsh Flag". Amgueddfa Cymru: Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-06.
  22. ""Here comes the Devil": Welsh Suffrage and the Suffragettes". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-06.
  23. "Wales history: Why is the red dragon on the Welsh flag?". BBC News (yn Saesneg). 2019-07-06. Cyrchwyd 2022-09-06.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]