Baner De Osetia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Baner De Ossetia)
Baner De Osetia

Baner drilliw lorweddol gyda stribed uwch gwyn (i gynrychioli deallusrwydd a bywyd ysbrydol y genedl), stribed canol melyn (i gynrychioli lles y bobl), a stribed is coch (i gynrychioli rhinwedd filwrol) yw baner De Osetia. Mae'n unfath â baner Gogledd Osetia-Alania, ag eithrio'r cyfraneddau.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Georgia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.