Baner Liechtenstein
Gwedd
| Enghraifft o: | baner cenedlaethol |
|---|---|
| Lliw/iau | glas, coch, aur |
| Dechrau/Sefydlu | Hydref 1921 |
| Genre | horizontal bicolor flag |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0kg50 |


Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch glas brenhinol â choron felen yn y canton a stribed is coch yw baner Liechtenstein. Mae'r lliwiau glas a choch wedi cynrychioli'r wlad ers y ddeunawfed ganrif, a defnyddiwyd fel stribedi'r faner ers 1921. Yng Ngemau Olympaidd Berlin ym 1936 bu ddryswch gan fod y faner yn debyg i faner Haiti, felly ychwanegwyd y goron ar 24 Mehefin, 1937 er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddwy (ac hefyd i ddynodi Liechtenstein fel tywysogaeth).
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)