Geirfa banereg
Dyma eirfa o derminoleg banereg sef, yr astudiaeth o faneri a'i hanes, a sut y dylunwyr hwy.
A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y |
Diagram o'r termau Saesneg
[golygu | golygu cod]![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7c/Flag_parts_diagram.svg/220px-Flag_parts_diagram.svg.png)
Diagram yn dangos prif nodweddion ac enwau rhannau o'r faner yn y Saesneg.
C
[golygu | golygu cod]Canton
[golygu | golygu cod]canton (lluosog: cantonau)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7a/Flag_of_the_Republic_of_Abkhazia.svg/150px-Flag_of_the_Republic_of_Abkhazia.svg.png)
Un o chwarteri'r faner, gan amlaf y chwarter uchaf ar ochr y polyn.[1]
Gweler enghreifftiau o hyn ym maneri'r UDA, Llydaw, Wrwgwái, Taiwan, Liberia, ac Abchasia ymysg llawer. Gwelir hefyd ym maneri trefeigaethol Prydain lle lleolir Baner y Deyrnas Unedig yn y canton, megis Awstralia a Seland Newydd yn fwyaf adanbyddus.
Cloren
[golygu | golygu cod]cloren (e.b. lluosog: clorennau, cloreniaid)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/06/Flag_of_Zambia.svg/150px-Flag_of_Zambia.svg.png)
- Cynffon y faner, y pen pellach o'r hos, y rhan sydd ar waelod baner wrth ei hongian yn llorweddol o adeilad. Yn Saesneg 'fly'.
Daw o'r gair am gynffon pioden, gwaywffon neu "rhywbeth tebyg i gynffon".[2] Bydd y cloren yn aml yn llipa wrth cyhwfan yn naturiol, mae'n gamgymeriad felly lleoli motiff yno gan y bydd hwnnw'n anweladwy am gyfnodau mawr o'r amser pan fydd baner yn hedfan wrth bolyn yn yr awyr agored di-wynt. Serch hynny, mae wedi bod yn ffasiynol ers yr 1960au i faneri gynnwys motiff yn y gloren, efallai gan bod y baneri hynny wedi eu dylunio gan ddylunwyr wrth ddesg ac nid gan chwyldoradwyr neu filwyr oedd am gyfleu neges glir. Ymysg y camgymeriadau dylunio banereg yma mae Sambia, Nunavut a baner newydd Rwanda.
H
[golygu | golygu cod]Hòs
[golygu | golygu cod]hòs neu hosiad
- Y rhan o'r faner sydd agosaf i'r polyn; y rhan a ddefnyddir i godi'r faner. Mae'r term hwn weithiau hefyd yn cyfeirio at ddimensiwn fertigol baner.
Ff
[golygu | golygu cod]Ffirbriliad
[golygu | golygu cod]ffibriliad neu rhimyn
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3c/Flag_of_the_Faroe_Islands.svg/150px-Flag_of_the_Faroe_Islands.svg.png)
- Ymyl neu rhimyn cul, yn aml mewn gwyn neu aur, ar faner i wahanu dau liw arall, yn enwedig os yw'r ddau liw arall yn debygol o dorri Rheol Tintur. Er enghraifft llinellau gwyn ac aur Baner De Affrica neu Ynysoedd y Ffaroe lle ceir ffibrilad las o gylch croes Sgandinafaidd goch. Ceir enghreifftiau eraill ar faner talaith hunanlywodraethol Swedeg ei hiaith ond sy'n rhan o'r Ffindir, sef, Ynysoedd Aland (ar ymyl y groes Lychlynaidd).
M
[golygu | golygu cod]Maes
[golygu | golygu cod]maes[3] (lluosog: meysydd)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/04/Flag_of_Libya_%281977%E2%80%932011%29.svg/150px-Flag_of_Libya_%281977%E2%80%932011%29.svg.png)
- Lliw cefndir y faner.[1]
Mae Baner Libia a elwyd yn faner Libia Arabaidd Jamahiriya yn enwog am fod yn faner ag iddi ddim ond maes werdd heb ddim lliw na motiff arall arni. Mabwysiadwyd y faner ar 19 Tachwedd 1977 ac roedd yn cynnwys maes gwyrdd. Hon oedd yr unig faner genedlaethol yn y byd gydag un lliw yn unig yn ystod y cyfnod hwnnw.[4] Fe'i dewiswyd gan arweinydd Libya Muammar Gaddafi i symboleiddio ei athroniaeth wleidyddol (ar ôl ei Lyfr Gwyrdd).ref>"Staff of Libyan consulate in Egypt lower flag". Reuters. 22 February 2011.</ref> Mae'r lliw gwyrdd yn draddodiadol yn symbol o Islam, gan adlewyrchu baneri gwyrdd hanesyddol y Califfad Fatimid. Yn Libia, roedd gwyrdd hefyd yn lliw a ddefnyddiwyd yn draddodiadol i gynrychioli rhanbarth Tripolitania.
P
[golygu | golygu cod]Polyn
[golygu | golygu cod]polyn (lluosog: polion) neu ffon (lluosog: ffyn)
- Y polyn a ddefnyddir i chwifio'r faner.[1]
Palo
[golygu | golygu cod]palo
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d9/Flag_of_Canada_%28Pantone%29.svg/150px-Flag_of_Canada_%28Pantone%29.svg.png)
- Mae Palo yn derm a ddefnyddir mewn herodraeth i nodi darn anrhydeddus sy'n cynnwys stribed fertigol traean o led y darian mewn herodraeth Eidalaidd [1] a 2 fodiwl (2/7 o'r lled) yn Ffrangeg, a gelwir palo sydd yr un lled â'r ddau stiped naill ochr, cmuseredd 1:2, y Palo Canadaidd wedi'r dylyniad ar faner Canada lle saif y ddeilled masarnen ar y llain wen.
Mae'r palo (Saesneg: Pale; benthycwyd y term Eidaleg i'r Gymraeg rhag drysu â geiriau Cymraeg arall fel pâl, pêl, neu ffâl) yn ddarn anrhydeddus (o'r drefn gyntaf) sy'n meddiannu rhan ganolog y darian yn fertigol ac wedi'i ffinio gan ddwy linell fertigol gyfochrog.
Rh
[golygu | golygu cod]Rhidens
[golygu | golygu cod]![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e0/US_Presidential_Flag_Carter_Library.jpg/150px-US_Presidential_Flag_Carter_Library.jpg)
rhidens enw g/b
- Er nad yn rhan o wead mewnol baner, mae'r rhidens[5] yn atodiad boblogaidd, fel arfer mewn defnydd lliw aur, ar hyd ymyl ehedog y faner (hynny yw, bob ochr heblaw'r hós). Atodir i'r faner am i godi statws ac ar gyfer arfer seremonïol yn hytrach na hedfan yn gyffredin. Gelwir yn 'fringe' fel rheol yn y Saesneg.[6]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Ryan, Complete Flags of the World (2002), t. 9.
- ↑ "Cloren". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2023.
- ↑ Griffiths a Jones [field].
- ↑ "Libya Flag". Cyrchwyd 12 December 2009.
- ↑ "rhidens". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2023.
- ↑ "What is the significance of the gold fringe which we see on some United States flags?". American Legion. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2023.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006])
- Ryan, Siobhán (gol.) Complete Flags of the World (Llundain, Dorling Kindersley, 2002)