Baner Liberia

Oddi ar Wicipedia
Baner Liberia

Mabwysiadwyd baner genedlaethol Liberia ar 26 Gorffennaf 1847,[1] ac mae'n seiliedig ar faner yr Unol Daleithiau gan adlewyrchu sefydliad Liberia fel mamwlad i gaethweision Affricanaidd-Americanaidd rhydd. Mae'r canton glas yn cynrychioli Affrica, a'r seren wen ynddi'n symboleiddio rhyddid yn tywynnu o'r "Cyfandir Tywyll". Mae'r 11 o stribedi coch a gwyn yn cynrychioli llofnodwyr Datganiad Annibyniaeth Liberia. 10:19 yw cymhareb y faner hon.[1][2] Yn ôl cyfansoddiad y wlad mae glas yn dynodi rhyddid, cyfiawnder a ffyddlondeb, mae gwyn yn symbol o burdeb, glendid a didwylledd, ac mae coch yn cynrychioli dycnwch, dewrder a brwdfrydedd.[3]

Baneri eraill[golygu | golygu cod]

Baneri Siroedd[golygu | golygu cod]

Mae Liberia wedi ei isrannu i 15 sir, pob un gyda'r hawl i'w baner ei hun. Mae pob baner siroedd yn cynnwys y faner genedlaethol yn y canton. Ceir y baneri sirol eu hedfan o swyddfeydd rhanbarthol a gyda'i gilydd gyda'r faner genedlaethol, yn amgylchynu y Palas Arlywyddol.

Gyff Gwawd[golygu | golygu cod]

Mae dyluniad baneri sirol Liberia yn destun gyff gwawd yn y maes baneriaeth a dylunio. Ceir sawl erthygl neu fideo [4] yn gwneud hwyl ar y diffyg cymuseredd, defnydd anghyffredin o liwiau a delweddau anaddas, neu, annisgwyl, ym maes dylunio baneri. Gellir dadlau hefyd bod nifer o'r baneri yn torri rheolau dylunio a lliw, gan gynnwys Rheol Tintur.

Serch hynny, dadleua eraill bod y dyluniadau yn adrodd hanes y siroedd; eu bod yn syml heb fod yn ddiflas fel baneri gwladfeydd Prydain neu faneri taleithiau yr Unol Daleithiau sy'n cynnwys ysgrifen; a nodir, os nad dim arall, bod y dyluniadau yn unigryw e.e. llain borffor baner sir Bomi.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Complete Flags of the World (Llundain, Dorling Kindersley, 2002), t. 84.
  2. Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Anness, 2010), t. 218.
  3. (Saesneg) Flag of Liberia. The World Factbook. CIA. Adalwyd ar 4 Mehefin 2013.
  4. https://www.youtube.com/watch?v=RzPH4jNvuKA
  5. https://www.youtube.com/watch?v=Ys5BrgeUYXg

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • (Saesneg) Liberia (Flags of the World)