Baner Gweriniaeth Canolbarth Affrica

Oddi ar Wicipedia
Baner Gweriniaeth Canolbarth Affrica, cymesuredd, 3:5

Mae baner Gweriniaeth Canolbarth Affrica yn faner anghyfrfredin yn ei defnydd o streipiau. Fe'i cyflwynwyd i'r Ddeddfwriaeth ar 1 Rhagfyr 1958 gan yr Arlywydd Barthélémy Boganda pan ddaeth tiriogaeth drefedigaethol Ffrengig yng nghanolbarth Affrica, Oubangui-Chari yn wladwiaeth annibynnol dan yr enw Gweriniaeth Canolbarth Affrica.

Gweledigaeth Boganda oedd y byddai tiriogaethau trefedigaethol Ffrainc yng nghanolbarth Affrica (Afrique équatoriale française) yn dod yn un wladwriaeth ffederal a hon byddai ei baner. Y tiriogaethau o'r AEF ddaeth maes o law yn wledydd annibynnol, ac nid yn rhan o un wladwriaeth ffederal fel y dymunodd Bagona yw: Tsiad, Gweriniaeth Canolbarth Affrica, Gabon a Gweriniaeth y Congo. Cynrychiolir rhan yn lliwiau'r faner. Roedd Camerŵn wedi ei rannu rhwng rhan Brydeinig a rhan Ffrengig, a gyd chyfnod annibynaieth, gadawodd Camerŵn Ffrengig gan uno â'r ochr Brydeinig.

Dyluniad[golygu | golygu cod]

Ceir pedwar streipen llorweddol o'r un lled a hyd ar draw y faner gan ddechrau o'r uchaf: glas, gwyn, gwyrdd, melyn ac yna streipen goch o'r un lled, yn gwypo lawr ar draws u streipiau llorsweddol yng nghannol y faner. Ar ochr y chwith y streipen las, ceir seren pump pig felen.[1]

Mae'r lliwiau gwyrdd, melyn a choch yn lliwiau y mudiad 'Rhyng-Affricanaidd' (pan-African) ac yn gyffredin i nifer o faner gwladwriaeth Affrica. Ysbrydolwyd y lliwiau yma gan liwiau baner Ethiopia, yr unig wlad Affricanaidd na feddianwyd gan wledydd tramor yn ystod yr 19g.

Symboliaeth[golygu | golygu cod]

  • Seren - i arwain y bobl ddu tuag at ryddid ac ymryddhâd. Mewn dyluniad cynnar cafwyd llaw ar y faner gyda'r mynegfys yn cyfeirio at seren MESAN (Mouvement de l'évolution sociale de l'Afrique noire - Mudiad Esblygiad Cymdeithasol Affrica Ddu). Mae'r glas a gwyn yn gydnabyddiaeth i'r dreftadaeth Ffrengig.
  • Glas - yn cyfateb i'r Congo a'r môr sy'n ei ysgogi
  • Gwyn - ar gyfer Chad a'i cotwm.
  • Gwyrdd - Gabon a'i goedwigoedd.
  • Melyn - ar gyfer Gweriniaeth Canol Affrica a'i gyfoeth mwynol
  • Coch - gwaed y merthyron

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn 1976 ystyriodd yr Arlywydd, Jean-Bedel Bokassa, faner newydd. Daeth hyn yn dilyn ei dröedigaeth i Islam o dan ddylanwad arweinydd Libya, Muammar Gaddafi. Cynnigiodd faner gyda lleuad cilgant ar yr aswy gyda seren ar y dde, ill dau yn lliw aur. Yn y canton, yn cymryd lle chwarter chwith uchaf y faner roedd dwy streipen llorweddol, aur uwchben gwyn.

Fodd bynnag, ni fabwysiadwyd y cynnig a coronodd Bakossa ei hun yn "Ymeradwr Bokassa I" a newid enw'r wlad i Ymerodraeth Canolbarth Affrica. Ar 4 Rhagfyr [[1976}}, disgrifiodd y cyfansoddiad newydd yr arwyddlun ar gyfer defnydd personol yr Ymerawdwr sef, baner o faes gwyrdd golau gydag eryr euraidd yn gorwedd ar seren 20 pegwn aur. Ysbrydolwyd yr ystondord gan ystondord eryr ymerodrol Napoleon.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Berry, Bruce (1 January 2016). "Central African Republic". Flags of the World. Cyrchwyd 1 November 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]