Baner Benin

Oddi ar Wicipedia
Baner Benin
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyrdd, melyn, coch Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu16 Tachwedd 1959 Edit this on Wikidata
GenrePan-African flag Edit this on Wikidata
RhagflaenyddBaner Ffrainc, flag of the People's Republic of Benin Edit this on Wikidata
Olynyddflag of the People's Republic of Benin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Benin
Baner Gweriniaeth Pobl Benin (1975–1990)

Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch melyn a stribed is coch gyda stribed fertigol gwyrdd yn yr hoist yw baner Benin. Lliwiau pan-Affricanaidd yw coch, melyn, a gwyrdd, ac maent yn symboleiddio undod a chenedlaetholdeb Affricanaidd. Mabwysiadwyd yn gyntaf ar 16 Tachwedd, 1959, yn ystod y cyfnod rhwng ennill ymreolaeth yn 1958 ac ennill annibyniaeth lwyr ar Ffrainc yn 1960; enw'r wlad ar y pryd oedd Gweriniaeth Dahomey. Yn dilyn chwyldro sosialaidd yn Rhagfyr 1975, newidodd enw'r wlad i Weriniaeth Pobl Benin a chafodd faner werdd gyda seren goch yn y canton ei defnyddio. Dechreuodd drawsnewidiad i ddemocratiaeth yn y 1980au hwyr a 1990au cynnar: newidiwyd enw'r wlad i Weriniaeth Benin a chafodd y faner wreiddiol ei hadfer yn 1990.

Seiliwyd lliwiau'r faner ar liwiau baner Ethiopia a ddaeth yn liwiau'r mudiad Pan-Affricanaidd dros fudiadau annibyniaeth i bobloedd ddu y cyfandir, a thu hwnt.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)