Neidio i'r cynnwys

Baner Somalia

Oddi ar Wicipedia
Baner Somalia

Seren wen ar faes glas yw baner Somalia. Mae'r seren yn symboleiddio undod, ac mae ei phum pwynt yn cynrychioli'r bum ardal lle mae'r hil Somaliaidd yn trigo: yng ngwledydd Ethiopia, Cenia, a Jibwti, ac yn y ddwy gyn-drefedigaeth Eidalaidd a Phrydeinig, sydd bellach gyda'i gilydd yn wladwriaeth Somalia.

Mabwysiadwyd y faner ar 12 Hydref 1954 gan y Diriogaeth Ymddiriedolaeth Eidalaidd ar sail baner las a gwyn y Cenhedloedd Unedig, oedd yn arolygu'r diriogaeth ar y pryd. Fe'i chedwir yn sgîl annibyniaeth Somalia ym 1960.

Mae'r 5 pegwn ar y seren yn symbol o'r pum tiriogaeth Somali sy'n cympasu lle mae'r Somaliaid yn byw ac yn creu Somalia Fawr sef: Somalia Eidalaidd, Somalia Brydeinig, Jibwti, Ogaden (rhan o Ethiopia bellach) a gogledd-ddwyrain Cenia.

Ymrannu

[golygu | golygu cod]

Yn 1991 ymrannodd hen rhanbarth Brydeinig Somalia,Somaliland gan chwifio ei baner answyddogol ei hun sy'n tynnu ar draddodiad baneri a lliwiau Pan-Arabaidd. Mae Baner Somaliland yn cynnwys y lliwiau "Arabaidd":coch, gwyn, gwyrdd a du. Mae'r seren ddu yn y canol yn cyfeirio at y freuddwyd o Somalia Fawr.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Eginyn erthygl sydd uchod am faner neu fanereg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Somalia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.