Baner Lesotho

Oddi ar Wicipedia
Baner gyfredol Lesotho Cymesuredd 2:3
Baner Lesotho, 1987–2006
Baner Lesotho 1966–1987

Ers annibyniaeth yn 1966 mae Lesotho wedi newid ei baner genedlaethol sawl gwaith. Mabwysiadwyd baner gyfredol Lesotho ar 4 Hydref 2006 ar bedwar deg mlwyddiant annibyniaeth y wlad.[1] Adnabwyd y wlad fel Basutoland yn ystod y cyfnod drefedigaethol. Er gwaethaf y ffaith fod y wlad wedi ei hamgylchynu gan Dde Affrica bu'n drefedigaeth arwahân a daeth yn wladwriaeth annibynnol yn 1966.

Dyluniad[golygu | golygu cod]

Mae'r faner gyfredol yn faner trilliw llorweddol, glas, gwyn a gwyrdd gyda "mokorotlo" ddu (het draddodiadol y Basotho, pobl y wlad) yn y canol. Bwriad y cynllun yw adlewyrchu cenedl sy'n heddychlon yn fewnol a chyda'i chymydog De Affrica, gan ddisodli'r hen ddyluniad baner a oedd yn cynnwys arwyddlun milwrol o darian, gwaywffon a chobiwr.[2][3]


Symbolaeth y lliwiau yw:[4]

Lliw Ystyr
Glas cynrychioli'r awyr neu'r glaw
Gwyrdd cynrychioli llewyrch
Gwyn cynrychioli heddwch. Mae gan Lesotho athroniaeth heddychlon ers gyfnod y Brenin Moshoeshoe I.

Cyn-faneri Lesotho[golygu | golygu cod]

Het draddodiadol mokorotlo

Cyflwynwyd baner gyntaf Lesotho ar 4 Hydref 1966, diwrnod annibyniaeth Lesotho o'r Deyrnas Unedig. Roedd yn cynnwys het draddodiadol mokorotlo gwyn amlwg ar faes glas. Roedd y glas yn symbol o'r awyr a glaw; y gwyn am heddwch; y gwyrdd ar gyfer tir, a'r coch am ffydd.

Dau ddeg un mlynedd yn hwyrach, mabwysiadwyd baner newydd, ar 20 Ionawr 1987. Cynlluniwyd y faner gan y Rhingyll Retšelisitsoe Matete, yn dilyn coup milwrol a dynnodd grym oddi ar Plaid Genedlaethol Basotho wedi iddynt fod am 20 mlynedd mewn grym.[5] Disodlodd darlun yr het gan darian Basotho draddodiadol ysgafn mewn lliw brown ynghyd ag assegai (picell neu waywffon drywanu draddodiadol) a'r knobkierrie (pastwn filrwrol). Newidiodd y cynllun lliw a'r patrwm hefyd, gyda maes gwyn trionglog yn sefyll dros heddwch ac yn lletraws ar waelod y faner stribed glas ar gyfer glaw a thriongl gwyrdd ar gyfer ffyniant.

Baner Gyfredol ers 2006[golygu | golygu cod]

Yn 2006, dewiswyd baner newydd o bedwar cynllun arfaethedig; roedd yr holl ddyluniadau hyn yn cynnwys het Basotho brown yn hytrach na'r tarian. Yn dilyn hynny newidiwyd hwn i het Basotho ddu er mwyn cynrychioli Lesotho fel cenedl ddu. Cymeradwywyd y mesur i newid y faner gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 18 Medi 2006, gyda 84 o aelodau seneddol yn pleidleisio o'i blaid, 18 yn ei erbyn, a dau yn ymatal. Cafodd ei gymeradwyo wedyn gan y Senedd hefyd.[6]

Oriel[golygu | golygu cod]

Baneri Hanesyddol Lesotho[golygu | golygu cod]

Ystondardau Brenhinol[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://www.britannica.com/topic/flag-of-Lesotho
  2. "Lesotho unfurls 'peaceful' flag". BBC News. 2006-10-04.
  3. "Senators give new flag green light". The Lesotho Government Portal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-08. Cyrchwyd 2006-10-05. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Flag Description". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-13. Cyrchwyd 2019-03-16.
  5. "New National Flag Passed by Parliament", Summary of Events in Lesotho, 3rd Quarter 2006, trc.org.ls.
  6. https://web.archive.org/web/20081208002120/http://www.lesotho.gov.ls/articles/2006/Senators_New_Flag.php
Eginyn erthygl sydd uchod am Lesotho. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.