Baner Nigeria

Oddi ar Wicipedia
Baner Nigeria

Baner drilliw fertigol o ddau stribed gwyrdd ar naill ochr (i gynrychioli tir Nigeria), a stribed gwyn yn y canol (i symboleiddio heddwch ac undod) yw baner Nigeria.

Mabwysiadwyd ar 1 Hydref, 1960 fel ymaddasiad o ddyluniad buddugol cystadleuaeth a gynhaliwyd yn 1959. Roedd gan y dyluniad gwreiddiol haul coch gyda phelydrau ar ben y stribed gwyn.

ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Eginyn erthygl sydd uchod am Nigeria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato