Baner Cenia

Oddi ar Wicipedia
Baner Cenia.
Cymesuredd, 2:3

Mabwysiadwyd baner Cenia neu baner Kenya (Swahili: Bendera ya Kenya) yn swyddogol ar 12 Rhagfyr 1963 y diwrnod i Cenia ddatgan ei hannibyniaeth.[1]

Dyluniad[golygu | golygu cod]

Dyluniad a chymesuredd

Mae'r faner yn un trilliw llorweddol o ddu, coch a gwyrdd gyda ymylon gwyn i'r stribed coc sy'n rhedeg ar draws canol y maes. Yng nghanol y faner ceir tarian llwyth y Masai a dau gwaywffon wedi eu croesi. Mae'r faner wedi ei seilio ar faner mudiad y Kenya African National Union (KANU) a ddaeth, maes o law, i fod y blaid a reolodd y wlad o annibyniaeth hyd at 2002. Roedd y faner KANU wreiddiol yn ddu a choch gyda tharian yn y canol - lluniwyd on ar 3 Medi 1951.[1]

Lliwiau[golygu | golygu cod]

Amodir lliwiau'r faner gan Archif Genedlaethol Cenia:

Du Coch Gwyrdd
Lliwiau Safonol Prydeinig 'Post office Red'
0-006
0-010

Symboliaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r darian a'r gwaywffyn croes yn symbol o ewyllys i amddiffyn ryddid. Mae'r faner wedi'i chynllunio i atgoffa'r Ceniaid o amserau anodd eu caethiwed dan lywodraeth drefendigaethol Ymerodraeth Prydain. Mae ystyr i liwiau'r stribedi yn y faner trilliw:[2]

Du - y bobl ddu gynhenid
Coch - gwaed a gollwyd i ennill rhyddi
Gwyrdd - meysydd a choedwigoedd y wlad
Gwyn - ar gyfer heddwch y gorffennol a dyfodol y wlad dyn du yn Affrica ac undod y bobloedd

Mae'r faner yn seiliedig ar faner werdd-ddu Undeb Cenedlaethol Affricanaidd Kenya, a arweiniodd y frwydr o annibyniaeth.

Cyn bod yn annibynnol, defnyddiwyd faner y Blue Ensign gydag arfbais yn yr adran hedfan fel baner drefedigaethol y "Colony and Protectorate of Kenya" Brydeinig.

Baneri Llywodraethol a Gwladwriaethol Eraill[golygu | golygu cod]

Ceir amrywiaeth ar y faner genedlaetol ar gyfer baneri swyddogol eraill y wladwriaeth

Ystondord Arlywyddwyr Cenia[golygu | golygu cod]

Lluoedd Amddiffyn[golygu | golygu cod]

Baneri Tebyg[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Genia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.