Baner Angola

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Angola FIAV 111111.svg
Baner yr MPLA

Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch coch a stribed is du gyda symbolau hanner olwyn gocos, cyllell machete, a seren felen yn ei chanol yw baner Angola. Mae'n seiliedig ar faner y Mudiad Poblogaidd i Ryddhau Angola (MPLA), a wnaeth rhyddhau'r wlad o Bortiwgal yn 1975: baner ddeuliw coch-du gyda seren felen yn ei chanol. Ychwanegwyd yr hanner olwyn gocos (i gynrychioli diwydiant) a'r machete (i gynrychioli amaeth) pan fabwysiadwyd yn swyddogol fel y faner genedlaethol ar 11 Tachwedd, 1975 er mwyn creu arwyddlun oedd yn cofio morthwyl a chryman y faner Sofietaidd.

ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Flag of Angola.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Angola. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Flag template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am faner neu fanereg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.