Baner Arfordir Ifori
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mabwysiadwyd baner Arfordir Ifori ar 3 Rhagfyr 1959. Baner drilliw gyda stribed chwith oren, stribed canol gwyn, a stribed dde coch yw baner Arfordir Ifori. Mae oren yn cynrychioli safanau gogleddol y wlad ac ysbryd datblygiad cenedlaethol, gwyrdd yn cynrychioli coedwigoedd y de a'r gobaith am ddyfodol gwell gan ddefnyddio adnoddau naturiol, a gwyn yn symboleiddio'r awyr, purdeb, ac undod rhwng gogledd a de'r wlad.
Baner debyg[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae dyluniad baner Ivory Coast yn debyg iawn i faner Iwerddon, ac eithrio bod y berthynas yn wahanol ac mae'r lliwiau'n cael eu gwrthdroi. Hawdd iawn i rhywun nad sy'n gyfarwydd gyda'r baneri i wneud y gwahaniaeth.
Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]
- Côte d'Ivoire gan Flags of the World.
- Vexilla-Mundi
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Southwater, 2010).