Baner y Comoros

Oddi ar Wicipedia
Baner y Comoros
Baner y Comoros yn chwifio tu allan i lysgenhadaeth y Comoros ym Mharis, Ffrainc.

Mabwysiadwyd baner genedlaethol Undeb y Comoros ym mis Ionawr 2002.[1] Mae'r triongl isosgeles[2] yn yr hoist yn wyrdd, lliw traddodiadol Islam, ac yn cynnwys cilgant Islamaiadd gwyn a phedair seren wen i gynrychioli pedair ynys yr ynysfor.[1][3] Mae'r pedwar stribed yn cynrychioli'r bedair ynys, sef o'r brig i'r gwaelod: melyn am Nwali, gwyn am Mayotte, coch am Nzwami, a glas am y brif ynys Grande Comore.[3] Er hyn, mae Mayotte yn diriogaeth Ffrengig de jure, ac mae Nwali a Nzwami yn diriogaethau ymreolaethol de facto.

2:3[3] neu 3:5[1] yw cymhareb y faner hon.

Cyn-faneri[golygu | golygu cod]

Mabwysiadwyd baner i'r Comoros ym 1963 pan oedd yn diriogaeth Ffrengig. Roedd gan y faner hon faes gwyrdd gyda chilgant gwyn yn uwch yr hoist i gynrychioli Islam, a phedair seren wen yn lletraws o chwith gwaelod y faner i dde'r brig i gynrychioli pedair ynys yr ynysfor.

Pan enillodd y Comoros ei hannibyniaeth ar Ffrainc ym 1975, newidiwyd lliw'r maes yn goch i symboleiddio dyheadau sosialaidd y wladwriaeth newydd, gan adael stribed gwrydd ar waelod y faner. Cadwyd y bedair seren, er nad oedd Mayotte yn rhan o'r wlad annibynnol. Ym 1978 daeth yr holl faes yn wyrdd unwaith eto. Newidiwyd y faner gan Gyfansoddiad 1996 i gynnwys monogramau Allah yng nghornel dde'r brig a Muhammad yng nghornel chwith y gwaelod.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Complete Flags of the World (Llundain, Dorling Kindersley, 2002), t. 108.
  2. (Saesneg) Flag of Comoros. The World Factbook. CIA. Adalwyd ar 4 Mehefin 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Anness, 2010), t. 225.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: