Al-lâh
Rhan o gyfres ar |
---|
Arferion |
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
Sunni · Shi'a |
Astudiaethau Islamig · Celf |
Islam a chrefyddau eraill |
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Allah neu Al-lâh yw enw Duw yn neu "Arglwydd" yn Arabeg. Cysylltir y term yn bennaf gyda'r syniad Islamaidd o Dduw ym meddwl pobl o wledydd gorllewinol er roedd y term mewn defnydd gan bobl Arabeg gan gynnwys Cristnogion ac eraill yn y cyfnod cyn-Islamaidd (ac ef sy'n dal i fod y gair cyffredin am Dduw yng nghyfieithadau Arabeg y Beibl Cristionogol heddiw). Cywasgiad o'r fannod al a'r enw ilâh "duw".
Yn ystod y cyfnod cyn-Islamaidd yn y Dwyrain Canol, yn arbennig yn nheyrnasoedd De Arabia, roedd y syniad o Dduw goruchaf eisoes yn cael ei gynrychioli gan y gair Allah (enw gwrywaidd yw allâh ond ceid hefyd y gair benywaidd allâaha neu al-Lât); roedd yno duw Arabaidd o'r un enw hefyd. Ceir yr enw Allah yn y ffurf Semitaidd HLH mewn arysgrifau o Balesteina sy'n dyddio o'r 5fed ganrif CC. Fe'i ceir hefyd yn y ffurf Hallâh mewn arysgrif o Saffa yn Yemen o'r ganrif 1af a hefyd mewn arysgrif Gristionogol o Umm al-Jima yn Syria o'r 7g. Addolwyd Hallâh ym Mecca fel un o dduwiau llwythol y Qurayshites, llwyth Mohamed. Enw tad Mohamed oedd Abdallah ("mab neu ddisgynydd Allah"). Fel canlyniad i bregethu Mohamed collodd yr enw Allah bob cysylltiad â'r duw paganaidd lleol a datblygodd i fod yr hyn ydyw heddiw, sef y prif enw ar y Duw goruchaf gyda'r syniad o'i undod a'i unigolrwydd ymhlyg yn hynny; cysyniad a fynegir yng nghymal gyntaf y fformiwla shahâda, sy'n ganolog i Islam ac yn grynodeb o'r gred honno: Lâ Ilaha illâ Allâh, "Nid oes duw arall ond Duw."
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gabriel Mandel Khan, Mahomet le Prophète (Paris, 2002). ISBN 2-7441-5686-8