Muhammad

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Mohamed)
Jump to navigation Jump to search
Muhammad
Dark vignette Al-Masjid AL-Nabawi Door800x600x300.jpg
Ganwydمُحَمَّدٌ Edit this on Wikidata
26 Ebrill 570 Edit this on Wikidata
Mecca Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mehefin 632 Edit this on Wikidata
Medina Edit this on Wikidata
Man preswylMecca, Medina Edit this on Wikidata
Galwedigaethheusor, consignor, masnachwr, Proffwydi Islam, pregethwr, gwleidydd, arweinydd militaraidd, caethfeistr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amY Corân Edit this on Wikidata
Tadhazard فسية a Edit this on Wikidata
MamAminah Edit this on Wikidata
PriodKhadija bint Khuwaylid, Sawda bint Zamʿa, Hafsa bint Umar, Juwayriyya bint al-Harith, Aisha, Zaynab bint Jahsh, Safiyya bint Huyayy, Zaynab bint Khuzayma, Umm Salama, Ramla bint Abi Sufyan, Rayhana bint Zayd ibn ʿAmr, Maria al-Qibtiyya, Maymunah bint al-Harith Edit this on Wikidata
PlantAbd-Allah ibn Muhammad, al-Qasim ibn Muhammad, Ibrahim ibn Muhammad, Zaynab bint Muhammad, Ruqayyah bint Muhammad, Umm Kulthum bint Muhammad, Fatimah Edit this on Wikidata
PerthnasauAli ibn Abi Talib, Halimah bint Abi Dhuayb, Hamza ibn ‘Abd al-Muttalib, Abu Talib ibn ‘Abd al-Muttalib, Abdul Muttalib, Hasan ibn Ali, Husayn ibn Ali, Zaynab bint Ali Edit this on Wikidata
LlinachBanu Hashim Edit this on Wikidata

Rhan o gyfres ar
Islam

Allah1.png

Athrawiaeth

Allah · Undod Duw
Muhammad · Proffwydi Islam

Arferion

Cyffes Ffydd · Gweddïo
Ymprydio · Elusen · Pererindod

Hanes ac Arweinwyr

Ahl al-Bayt · Sahaba
Califfiaid Rashidun · Imamau Shi'a

Testunau a Deddfau

Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith
Fiqh · Sharia
Kalam · Tasawwuf (Swffiaeth)

Enwadau

Sunni · Shi'a

Diwylliant a Chymdeithas

Astudiaethau Islamig · Celf
Calendr · Demograffeg
Gwyliau · Mosgiau · Athroniaeth
Gwleidyddiaeth · Gwyddoniaeth · Merched

Islam a chrefyddau eraill

Cristnogaeth · Iddewiaeth

Gweler hefyd

Islamoffobia · Termau Islamig
Islam yng Nghymru

Sylfaenydd crefydd Islam oedd Muhammad neu Mohamed (570 - 8 Mehefin, 632). Ganwyd ef ym Mecca rywbryd yn y flwyddyn 570 OC, yn fab i Abd Allah a oedd yn aelod o deulu'r Hashimiaid o lwyth y Quraysh, a bu farw ym Medina (yn Sawdi Arabia heddiw). Bu farw ei dad cyn iddo gael ei eni a bu ei fam, Amina, farw pan oedd yn chwech oed.

Yn ôl dysgeidiaeth Islam, cafodd Muhammad weledigaeth ddwyfol yn 610, y gyntaf o nifer. Gwelodd yr angel Gabriel a chlywed llais yn dweud wrtho "Adrodd". Ar ôl oedi a phetruso, yn y diwedd derbyniodd Muhammad yr alwad. Arwyddocâd y weledigaeth oedd iddo fod yn lladmerydd i'r gwirionedd dwyfol a dechrau lledaenu'r neges newydd.

Ar ôl marwolaeth Muhammad yn 632, cafodd y ddysgeidiaeth a ddatguddiwyd iddo ei threfnu i ffurfio'r Coran, llyfr sanctaidd y Mwslemiaid. Mae Mwslemiaid yn credu, fodd bynnag, fod y Coran yn llyfr tragwyddol sy'n air Allah ei hun ac ei drosglwyddo i'r ddynoliaeth a wnaeth Muhammad; ni fyddai Mwlemiaid fyth yn cyfeirio at Fuhammad fel "awdur" y Coran, gan ystyried fod hynny'n gabledd.

Dilynwyd fel arweinydd y Mwslemiaid gan Abu Bakr, a ystyrir fel y Califf cyntaf.

Muhammad yn pregethu - llun anghyffredin o'r 17thfed ganrif (copi o lun cynharach) o Bersia neu Ganolbarth Asia sy'n dangos wyneb y Proffwyd, yn groes i'r arfer Islamaidd

.

Islam template b.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.