Hadith

Oddi ar Wicipedia
Hadith
Mathgwaith llenyddol, disgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhan o gyfres ar
Islam


Athrawiaeth

Allah · Undod Duw
Muhammad · Proffwydi Islam

Arferion

Cyffes Ffydd · Gweddïo
Ymprydio · Elusen · Pererindod

Hanes ac Arweinwyr

Ahl al-Bayt · Sahaba
Califfiaid Rashidun · Imamau Shi'a

Testunau a Deddfau

Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith
Fiqh · Sharia
Kalam · Tasawwuf (Swffiaeth)

Enwadau

Sunni · Shi'a

Diwylliant a Chymdeithas

Astudiaethau Islamig · Celf
Calendr · Demograffeg
Gwyliau · Mosgiau · Athroniaeth
Gwleidyddiaeth · Gwyddoniaeth · Merched

Islam a chrefyddau eraill

Cristnogaeth · Iddewiaeth

Gweler hefyd

Islamoffobia · Termau Islamig
Islam yng Nghymru

Ystyr y term hadith (Arabeg: حديث, ḥadīṯ; lluosog ʾaḥādīṯ أحاديث) yw dywediad llafar gan Mohamed, proffwyd Islam, neu un o'r gweithiau sy'n cynnwys casgliadau o'r dywediadau hynny a thraddodiadau eraill am Fohamed a'i gydymdeithion, a ystyrir gan Fwslemiaid fel canllawiau ynglŷn â bywyd personol pob Mwslim a chymuned yr Umma. Maent yn rhan o'r hyn a elwir yn "Draddodiad y Proffwyd" gan Fwslimiaid: dydyn nhw ddim yn rhan o'r Coran ei hun.

Ceir sawl casgliad o ddywediadau a thraddodiadau a elwir yn hadithau. Mae ei awdurdod yn y byd Islamaidd yn amrywio. Mae'r hadithau cynharaf yn rhai y credir iddynt gael eu casglu o fewn cenhedlaeth neu ddwy ar ôl marwolaeth Mohamed tra bod y rhai mwy diweddar yn dyddio o'r 9fed neu'r 10g. Mae graddfa eu derbyniaeth gan Fwslemiaid yn amrywio hefyd. Yn achos yr hadithau mwy diweddar, er enghraifft, mae rhai yn rhan o draddodiad y Mwslemiaid Sunni ac eraill yn perthyn i draddodiad y Shia neu enwadau eraill.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cafodd traddodiadau am fywyd Mohamed a hanes cynnar Islam eu trosglwyddo ar lafar am dros gan mlynedd ar ôl marwolaeth y proffwyd yn 632 OC.

Dywed haneswyr Mwslemaidd mai'r Califf Uthman (y trydydd khalifa, neu olynydd ysbrydol Mohamed), oedd y cyntaf i annog y Mwslemiaid i roi'r Coran ar glawr mewn ffurf safonol, ac i gofnodi'r hadith. Ond lladdwyd Uthman gan wrthryfelwyr yn 656.

Mae barn haneswyr, o fewn a'r tu allan i Islam, yn rhanedig am yr hyn a ddigwyddodd nesaf. Mae rhai yn credu fod llawer o'r hadithau yn perthyn i'r 7fed a'r 8g ond mae eraill o'r farn mai traddodiad llafar oedd yn gyfrifol am y trosglwyddiad, yn bennaf neu'n gyfangwbl. Does dim hadith ysgrifenedig o'r cyfnod hwnnw wedi goroesi.

Roedd ysgolheigion y cyfnod Abbasid yn gorfod wynebu'r ffaith fod y corff mawr o hadithau yn cynnwys tradoddiadau amrywiol iawn gyda gwahaniaethau mawr mewn rhai ohonynt. Roedd angen gosod safonau a phenderfynu pa hadithau oedd yn ddilys a gwahaniaethu rhwng y rhai y gellid eu hystyried yn perthyn i gyfnod Mohamed a'i ddilynwyr a'r lleill, diweddarach, oedd yn aml yn cefnogi barn enwadol neu wleidyddol ar faterion sy'n ganolog i Islam. Ar ddechrau'r 7g dechreuodd trosglwyddwyr yr hadith ymchwilio ffynhonnell y dywediad. Dyma gychwyn y syniad o Isnad, sef 'dilysrwydd yr hadith'. Credir i'r casgliadau cynharaf sydd ar glawr heddiw gael eu hysgrifennu yn yr 8g.

Prif gasgliadau[golygu | golygu cod]

Sunni[golygu | golygu cod]

Ceir chwe phrif gasgliad o hadithau a ystyrir yn hollol ddilys yn y traddodiad Sunni; cyfeirir atynt fel 'y chwe sahîh' (al-sihah al-sitta). Y ddau gyda'r awdurdod mwyaf yw:

Y sahih eraill yw:

  • Casgliad Abû Dawud (817-889), sef y Kitâb as-Sunnan.
  • Casgliad Ibn Majah (824-887), sef Sunan Ibn Majah.
  • Casgliad At-Tirmidhi (824-893), sef Sunan At-Tirmidhi.
  • Casgliad Al-Nasa'i (830-916).

Ceir hefyd:

  • Casgliad Hammam bin Munabbih, al Sahifa as-Sahihah, cynnar ond anghyflawn.
  • Casgliad Malik Ibn Anas (712-795), sefydlwr yr ysgol Malekite, sef Kitab al-Muwatta.
  • Casgliad Ahmad ibn Hanbal Musnâd, sefydlwr yr ysgol Hanbalite (780-855).
  • Y Mishkat Shareef.

Shia[golygu | golygu cod]

Ceir sawl casgliad o haithau Shia. Y pwysicaf yw:

  • Casgliad Ya'qub al-Kolayni (m. 939).
  • Casgliad Saduq Ibn Babuyeh (m. 991).
  • Casgliad Al-Hasan at-Tusi (m. 1068).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.