Muhammad
Rhan o gyfres ar |
---|
Arferion |
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
Sunni · Shi'a |
Astudiaethau Islamig · Celf |
Islam a chrefyddau eraill |
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Sylfaenydd crefydd Islam oedd Muhammad neu Mohamed (26 Ebrill, 570 - 8 Mehefin, 632). Ganwyd ef ym Mecca rywbryd yn y flwyddyn 570 OC, yn fab i Abd Allah a oedd yn aelod o deulu'r Hashimiaid o lwyth y Quraysh, a bu farw ym Medina (yn Sawdi Arabia heddiw). Bu farw ei dad cyn iddo gael ei eni a bu ei fam, Amina, farw pan oedd yn chwech oed.
Yn ôl dysgeidiaeth Islam, cafodd Muhammad weledigaeth ddwyfol yn 610, y gyntaf o nifer. Gwelodd yr angel Gabriel a chlywed llais yn dweud wrtho "Adrodd". Ar ôl oedi a phetruso, yn y diwedd derbyniodd Muhammad yr alwad. Arwyddocâd y weledigaeth oedd iddo fod yn lladmerydd i'r gwirionedd dwyfol a dechrau lledaenu'r neges newydd.
Ar ôl marwolaeth Muhammad yn 632, cafodd y ddysgeidiaeth a ddatguddiwyd iddo ei threfnu i ffurfio'r Coran, llyfr sanctaidd y Mwslemiaid. Mae Mwslemiaid yn credu, fodd bynnag, fod y Coran yn llyfr tragwyddol sy'n air Allah ei hun ac ei drosglwyddo i'r ddynoliaeth a wnaeth Muhammad; ni fyddai Mwlemiaid fyth yn cyfeirio at Fuhammad fel "awdur" y Coran, gan ystyried fod hynny'n gabledd.
Dilynwyd fel arweinydd y Mwslemiaid gan Abu Bakr, a ystyrir fel y Califf cyntaf.

.