Angel
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Math | mythic humanoid, ysbryd, creadur goruwchnaturiol, cymeriadau chwedlonol ![]() |
![]() |

Llun olew gan Carl Heinrich Bloch yn dangos Iesu Grist yng Ngardd Gesthemane gydag Angel yn ei gysuro.
Yn ôl yr Hen Destament a'r Coran, negesydd Duw yw angel. Yn aml, mae golau ac adenydd yn gysylltiedig â nhw a chânt eu cysylltu gyda marwolaeth neu'r bodau ysbrydol a geir mewn crefyddau eraill. Mae rhai diwylliannau'n credu eu bod yn gofalu neu'n gwarchod pobl unigol.
Yn Islam, Mikail (Mihangel) yw'r archangel sy'n cael ei anfon gan Allah i ddatgelu'r Coran i'r Proffwyd Mohamed.
Daw'r gair o'r Hen Roeg ἄγγελος (angelos), "negesydd".
Angel y Nadolig[golygu | golygu cod y dudalen]
Cysylltir y Nadolig hefyd gydag angylion.
Mewn llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ogystal a'r Beibl, ceir sawl cyfeiriad at angylion. Ceir cwpled o englyn arbennig am y llais dynol:
- Gwerthai angel ei delyn
- Ym mhalas Duw am lais dyn.