Ali ibn Abi Talib
Ali ibn Abi Talib | |
---|---|
Ganwyd | c. 600 ![]() Mecca ![]() |
Bu farw | 28 Ionawr 661 ![]() Kufa ![]() |
Dinasyddiaeth | Rashidun Caliphate ![]() |
Galwedigaeth | gwladweinydd, qadi, Islamic jurist, muhaddith, mufassir, barnwr, bardd ![]() |
Swydd | Rashidun, The Twelve Imams ![]() |
Tad | Abu Talib Ibn ‘abd Al-Muttalib ![]() |
Mam | Fatimah bint Asad ![]() |
Priod | Fatima, Umm ul-Banin, Umamah bint Zainab, Asma bint Umays, Khawla al-Hanafiyya ![]() |
Plant | Hassan Ibn Ali, Husayn ibn Ali, Abbas ibn Ali, Abdullah ibn Ali, Jafar ibn Ali, Muhammad ibn al-Hanafiyyah, Zaynab bint Ali, Umm Kulthum bint Ali ibn Abi Talib, Hilal ibn Ali, Ruqayya bint Ali, Uthman ibn Ali, Khadija bint Ali, Umar ibn Alí, Muhsin ibn Ali ![]() |
Perthnasau | Muhammad in Islam ![]() |
Llinach | Banu Hashim ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cefnder a mab yng nghyfraith Muhammad, proffwyd olaf Islam, oedd Alī ibn Abī Ṭālib (Arabeg: علي ابن أبي طالب; ynganiad: [ʕali]); 15 Medi 601 - 29 Ionawr 661). Ef oedd y pedwerydd califf; rheolodd ei bobl o 656 i 661, ond fe'i hystyrir fel olynydd uniongyrchol y Proffwyd Muhammad gan y Mwslimiaid Shia.[1]
Ganed ef gyda'r enwau Abu Talib a Fatimah bint Asad. Ef yw'r unig berson i'w eni yng nhysegr sanctaidd y Kaaba (Arabeg: كَـعـبَـة), ym Mecca, y lle mwyaf sanctaidd yn Islam, yn ôl llawer o Islamaidd clasurol, yn enwedig rhai Shia. Ali oedd y gwryw cyntaf a dderbyniodd Islam, ac yn ôl rhai awduron y Mwslim cyntaf.[2][3][4][5][6][7]
Wedi iddo symud i Medina, priododd ferch Muhammad, sef Fatimah. Penodwyd ef yn galiff gan gyfeillion Muhammad (Sahaba) yn 656, gan olynu Uthman ibn Affan i hwnnw gael ei lofruddio.[8][9] Amddiffynodd Muhammad drwy ei oes, a chymrodd ran mewn sawl brwydr. Yn ystod teyrnasiad Ali yr ymladdwyd y Fitna Cyntaf (yr hyn a elwir yn ryfel cartref). Yn 661, ymosodwyd arno ac fe'i llofruddiwyd deuddydd yn ddiweddarach gan Kharijite tra roedd yn gweddio.[10][11][12][13]
Mae Ali'n allweddol bwysig i'r Shias a'r Sunnis, yn wleidyddol ac yn grefyddol.[14] Cred y ddau enwad fod Ali yn Fwslim i'r carn a'i fod yn bleidiol iawn i Islamiaeth; ceir hefyd mannau lle mae'r ddwy ochr yn anghytuno yn ei gylch.[15]
Cred y Sunnis mai Ali yw'r pedwerydd califf, a'r olaf, ond cred y Mwslimiaid Shia yw mai ef yw'r Imam cyntaf ar ôl Muhammad, oherwydd eu dehongliad o'i bregeth yn Ghadir Khumm. Mae Mwslimiaid Shia hefyd yn credu bod Ali a'r Shia Imams eraill (y mae pob un ohonynt yn aelodau o'r Bayṫ Muhammad) yn ddilynwyr cywir i Muhammad. Yr anghytundeb hwn oedd y maen tramgwydd a rannodd yr Ummah (Arabeg: أمة, Cymuned Mwslimaidd) i'r canghennau Shia a Sunni.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Al-Islam. "The Life of the Commander of the Faithful Ali Ibn Abu Talib (as)". Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2015.
- ↑ Biographies of the Prophet's companions and their successors, Ṭabarī, translated by Ella Landau-Tasseron, tt. 37–40, Vol:XXXIX.
- ↑ Sallabi, Dr Ali M (2011). Ali ibn Abi Talib (volume 1). tt. 52–53.
- ↑ Sahih Muslim, Llyfr 21, Hadith 57.
- ↑ Kelen 2001, t. 29.
- ↑ Watt 1953, t. xii.
- ↑ The First Muslims www.al-islam.org Retrieved 23 Tachwedd 2017
- ↑ Ashraf 2005, t. 119 and 120
- ↑ Madelung 1997, tt. 141–145
- ↑ Lapidus 2002, t. 47.
- ↑ Holt, Lambton & Lewis 1970, tt. 70–72.
- ↑ Tabatabaei 1979, tt. 50–75 and 192.
- ↑ Razwy, Sayed Ali Asgher. A Restatement of the History of Islam & Muslims. t. 72.
- ↑ Gleave, Robert M. "Ali ibn Abi Talib". Encyclopaedia of Islam, THREE. Brill Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ebrill 2, 2013. Cyrchwyd Mawrth 29, 2013. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "ĀL-E ʿABĀ". Archifwyd o'r gwreiddiol ar Hydref 18, 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)