Neidio i'r cynnwys

Sgwrs:Al-lâh

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Yn Gymraeg fe ddylwn ni silllafu Allah fel al-lâh am y rhesymau canlynol.

  • Yn Gymraeg mae dau L yn gwneud LL felly bydd y cynaniad yn anghywir. Fe ddylwn ni gynanu'r ddau L ar wahân.
  • Allah yw'r trawsgrifiad Saesneg o'r gair Arabeg am Dduw. Cywasgiad o'r fannod al, ac ilâh = duw; gair am air felly - "y duw" hynny yw - "Duw". Wrth gywasgu'r geiriau "al" ac ilâh fe fydd yr "al" yn colli'r L derfynol a'r gair ilâh yn colli'r I gyntaf. Fe fydd yr L ganlynol yn cymryd "shada" (math o hirnod sy'n edrych yn debyg i "w") sy'n cael yr effaith o ddyblu'r llythyren. Yn effeithiol, rhaid cynanu'r L ddwy waith. Er mwyn trawsgrifio i'r Saesneg felly mae rhaid sillafu "Allah" gyda dau L, ond yn Gymraeg "al-lâh". Rhys 08:17, 18 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]