Defnyddiwr:Rhys
| ||
| ||
| ||
Chwiliwch ieithoedd defnyddwyr |
Helo! Cymro Cymraeg o Gaerdydd ydw i, ond o Wrecsam yn wreiddiol. Rydw'i wedi ymgartrefu bellach ger Nice, Ffrainc.
Roeddwn i'n gweld Wicipedia Cymraeg braidd yn dlawd i ddechrau ond mae e'n gwella o ddydd i ddydd. Mae cyfrannu at Wicipedia yn rhoi cyfle i mi ymarfer yr iaith Gymraeg, yn enwedig gan fy mod i'n buw yn Ffrainc. Dwi'n ymwybodol 'mod i wedi gwneud llawer o gamgymeriadau. Diolch am eich cymorth, ond dwi'n ofni bod rhai yn camgywiro ambell waith.
Sillafiad neu sillafiaeth
[golygu | golygu cod]Mae hi'n anodd iawn dewis weithiau sut i sillafu geiriau sy ddim yn y geiriadur Cymraeg. Dwi'n ceisio osgoi defnyddio J, K, Q, V, X a Z. Wel, fe fyddai'n defnyddio J weithiau a dw'i wedi defnyddio'r llythrennau eraill hefyd mewn enwau estron. Dwi'n ymwybodol hefyd mai RR a NN yw'r unig lythrennau ddwbwl yng Nghymraeg (heblaw DD, FF a LL sydd yn y wyddor). Fe fydda i'n edrych yn ofalus ar ambell i air ac ymchwilio i weld os oes gair Cymraeg addas, cyn penderfynu sut i'w sillafu.