Baner Mali

Oddi ar Wicipedia
Baner Mali

Baner drilliw yw baner genedlaethol Mali a fabwysiadwyd ar 1 Mawrth 1961. Y lliwiau pan-Affricanaidd yw'r stribedi: gwyrdd am natur, melyn am burdeb ac adnoddau mwynol, a choch i symboleiddio'r gwaed a gollwyd yn y frwydr am annibyniaeth.[1] 2:3 yw cymhareb y faner hon.

Enillodd Mali annibyniaeth ar Ffrainc ar 20 Mehefin 1960, gan ffurfio Ffederasiwn Mali gyda Senegal. Ymwahanodd y ddwy wlad ar 20 Awst a ddatganwyd Gweriniaeth Mali ar 22 Medi 1960. Hyd 1 Mawrth 1961, parhaodd Mali i ddefnyddio baner Ffederasiwn Mali, sef y faner bresennol ond gyda symbol kanaga yn ei chanol.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Anness, 2010), t. 217.
  2. Complete Flags of the World (Llundain: Dorling Kindersley, 2002), t. 77.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • (Saesneg) Mali (Flags of the World)