Baner Libia
Baner drilliw lorweddol gyda stribed uwch coch, stribed is gwyrdd, a stribed canol du gyda seren a chilgant gwyn yn ei ganol yw baner Libia.
Yn ystod yr oes drefedigaethol, nid oedd gan Libia faner ei hun. Adeg uno'r tair talaith Cyrenaica, Tripolitania a Fezzan dan y Brenin Idris ym 1947, defnyddiwyd baner Cyrenaica yn faner Teyrnas Unedig Libia. Maes du gyda seren a chilgant gwyn oedd y faner honno, ac ym 1949 ychwanegwyd stribedi gwyrdd a choch i gynrychioli'r ddwy dalaith arall, Tripolitania a Fezzan. Ni newidiodd y faner pan enillodd Libia ei hannibyniaeth ym 1951. Yn sgil coup d'état gan Muammar al-Gaddafi ym 1969, mabwysiadwyd y lliwiau pan-Arabaidd, coch, gwyn a du, i efelychu baner Chwyldro'r Aifft (1952). Ar ôl i Anwar Sadat, Arlywydd yr Aifft, ymgymodi ag Israel, cyflwynodd Gaddafi faner o faes gwyrdd, lliw Islam, yn Nhachwedd 1977 i symboleiddio ei Chwyldro Gwyrdd. Am nifer o flynyddoedd, hon oedd yr unig faner genedlaethol o un lliw plaen. Yn sgil Chwyldro Libia a dymchwel Gaddafi, adferwyd baner 1949 yn faner genedlaethol Libia ar 3 Awst 2011.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) flag of Libya. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Awst 2017.