Baner Moroco
Maes coch gyda Selnod Solomon (sef pentagram gwyrdd) yn ei ganol yw baner Moroco. Mae'r lliw coch o arwyddocâd hanesyddol sylweddol ym Moroco, gan ei fod yn symboleiddio llinach y Teulu Brenhinol o'r Proffwyd Muhammad trwy ei ferch Fatimah, gwraig Ali, y bedwaredd Galiff. Hefyd coch yw lliw Sharifau Mecca ac Imamau Iemen.
Hyd nes yr ail ganrif ar bymtheg y Frenhinlin Hassani oedd yn teyrnasu dros Foroco a maes coch yn unig oedd baner y wlad. Ar 17 Tachwedd, 1915, yn ystod teyrnasiad Mulay Yusuf, ychwanegwyd Selnod Solomon – symbol a ddefnyddiwyd mewn cyfraith yr ocwlt ers canrifoedd – i'r faner.
Pan oedd Moroco dan reolaeth Ffrainc a Sbaen defnyddiwyd y faner yn fewndirol ond gwaharddwyd ei defnydd ar y moroedd. Ail-fabwysiadwyd y faner genedlaethol yn swyddogol yn sgîl annibyniaeth yn 1956.
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)