Baner Gini

Oddi ar Wicipedia
Baner Gini, cymesuredd; 2:3

Mabwysiadwyd baner Gini ar 10 Tachwedd 1958 yn dilyn annibyniaeth y wlad. Lleolir Gweriniaeth Gini yng Ngorllewin Affrica ac mae'r wlad yn gyn-drefedigaeth Ffrengig. NI ddylid ei ddrysu gyda Gini Bisaw sy'n gyn-drefedigaeth Portiwgaleg. Sillefir y wlad yn Guinea yn y Ffrangeg a'r Saesneg.

Mae'r faner yn faner trilliw, yn nhraddodiad baner Ffrainc gyda'rs tri streipen fertigol, coch, melyn a gwyrdd, gyda'r goch agosaf ac y mast.

Symboliaeth[golygu | golygu cod]

Baner genedlaethol Gini
Coch - gwaed yr holl ferthyron a dywalltwyd ar gyfer y frwydr yn erbyn y feddiannaeth drefedigaethol ond hefyd ar gyfer annibyniaeth y wlad ar 2 Hydref 1958
Melyn - cyfoeth tanddaearol Gini (Aur, Bocsit, Diemwnt, Haearn, Wraniwm, ac ati) a hefyd yr haul
Gwyrdd - llystyfiant y wlad (savanna yn y Gogledd-ddwyrain a'r goedwig yn y De-ddwyrain) a hefyd Islam sef prif grefydd Gini

Mae'r lliwiau hyn hefyd yn lliwiau pan-Affricanaidd. Ni ddylid cymysgu baner Guinea â baner Mali sydd â bron yr un lliwiau yn y drefn gefn (gwyrdd, melyn (aur), coch o'r mast).[1]

Mae lliw gwyrdd baner y Gini yn wyrdd malachit tra bod baner Mali yn dywarchen werdd.

Roedd baner flaenorol Rwanda yng Nghanolbarth Affrica wedi ei hysbrydoli gan faner Teyrnas Rwanda ac roedd union yr un peth ag un Gini ond gydag 'R' fawr yn y canol.

Cyn-faner Rwanda[golygu | golygu cod]

Roedd baner Rwanda bron union yr un fath â baner Gini, nes ei newid yn 2001.

Dolenni[golygu | golygu cod]

  • Gini gan Flags of the World.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gini. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.