Baner Namibia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
FIAV 111111.svg Baner Namibia, cymesuredd, 2:3

Mabwysiadwyd baner Namibia yn swyddogol ar 21 Mawrth 1990 diwrnod ei hannibyniaeth o Dde Affrica.[1]

Dylunio[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner Namibia yn cyhwfan
FIAV historical.svg Baner mudiad annibyniaeth SWAPO (1960-)

Derbyniodd yr Is-bwyllgor Symbolau Cenedlaethol 870 o geisiadau ar gyfer baner genedlaethol i Namibia. Cafodd chwe chynllun eu rhoi ar y rhestr fer; cafodd hyn ei ostwng i dri, rhai tair Namibiaid - Theo Jankowski o Rehoboth, Don Stevenson o Windhoek a Ortrud Clay o Lüderitz. Cafodd y tri chynllun hyn eu cyfuno i ffurfio baner genedlaethol Namibia, a fabwysiadwyd yn unfrydol ar 2 Chwefror 1990 gan y Cynulliad Cyfansoddol. Cydnabuwyd y tri dylunydd yn gyhoeddus gan y barnwr Hans Berker, cadeirydd yr is-bwyllgor, yn y seremoni ddadorchuddio ar 9 Mawrth 1990.[2]

Fodd bynnag, gwnaed dau hawliad arall - honnodd De Affricaniad, Frederick Brownell, ei fod wedi cynllunio'r faner yn ei rôl fel South Herald State State.[3] Yr hawliwr arall oedd Briton Roy Allen a honnodd bod dyluniad y faner yn ganlyniad cystadleuaeth a gynhaliwyd gan Hannes Smith o'r Windhoek Observer, a'i fod wedi ennill.[4]

Yr hyn nad sydd mewn amheuaeth yw fod lliwiau y faner wedi eu seilio ar liwiau'r mudiad SWAPO (South West Africa People's Organisation), un o'r mudiadau a ymladdodd dros annibyniaeth i'w wlad. Mabwysiadwyd y faner yma yn 1971 ac mae iddo streipiau llorweddol glas-coch-gwyrdd sef lliwiau mwayf pwysig cenedl yr Ovamno, un o bobloedd brodorol mwyaf niferus y wlad.[1]

Symbolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglurodd y cadeirydd symbolaeth lliwiau'r faner fel a ganlyn: [2]

Coch - yn cynrychioli adnodd pwysicaf Namibia, ei bobl. Mae'n cyfeirio at eu harwriaeth a'u penderfyniad i adeiladu dyfodol cyfle cyfartal i bawb
Gwyn - yn cyfeirio at heddwch ac undod
Gwyrdd - yn symbol o lystyfiant ac adnoddau amaethyddol
Glas - yn cynrychioli awyr glir Namibia a'r Cefnfor Iwerydd, adnoddau dŵr gwerthfawr y wlad a glaw
Haul - yr haul melyn-aur yn cynrychioli bywyd ac egni

Dyluniad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymesuredd dyluniad Baner Namibia

Mae gan y faner fand lletraws goch sy'n ymledu'n groeslinol o'r gornel ochr chwith isaf. Mae'r triongl uchaf yn las gyda haul aur gyda 12 pelydr triongl. Mae triongl, sef, rhan dde isaf y faner, yn wyrdd.

Mae dyfais y streipen letraws o chwith i dde yn ymddangos mewn baner sawl tair gwlad arall yn Affrica seff, baner Tansania, baner Gweriniaeth y Congo a baner Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo.

Baneri eraill cyfredol Namibia[golygu | golygu cod y dudalen]

Baneri Hanesyddol tiriogaeth Namibia[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ogystal â baneri sy'n hanesyddol i diriogaeth Sud-West Afrika, South West Africa ceir hefyd baneri a grewyd ar gyfer y 'tiriogaethau brodorol' (Bantustan /'homelands') a grewyd yn ystod cyfnod Apartheid o ran lywodraeth 'warchodol' De Affrica.


Cyn-faneri 'Homelands' (Bantustans) South West Africa[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 https://www.fotw.info/flags/na.html
  2. Kangootui, Herman; Amagola, Elizabeth (14 June 2018). "The Namibian flag: Its origins and spirit that inspire the nation". New Era. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-30. Cyrchwyd 2019-03-16.
  3. (reported by) FG Brownell (December 1990), Coats of Arms and Flags in Namibia (A series of 8 articles.)
  4. Schütz, Helge (23 October 2015). "Allen from Plymouth ... The man who designed the Namibian flag". The Namibian.
Flag of Namibia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Namibia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.