Baner Ghana

Oddi ar Wicipedia
Baner Ghana

Baner drilliw lorweddol gyda stribed uwch coch (i gynrychioli gwaed y rhai fu farw tra'n ymladd dros annibyniaeth), stribed canol melyn (i gynrychioli cyfoeth mwynol y wlad) gyda seren ddu yn ei ganol (sef Seren Ryddid Affrica), a stribed is gwyrdd (i symboleiddio coedwigoedd y wlad) yw baner Ghana. Ghana oedd y wlad gyntaf i ddefnyddio'r lliwiau pan-Affricanaidd coch, melyn, du, a gwyrdd pan fabwysiadwyd y faner ar 6 Mawrth, 1957, ar ôl i'r wlad ennill annibyniaeth ar Brydain, a daeth hyn i ysbrydoli nifer o faneri Affricanaidd eraill yn ystod y cyfnod o ddatrefedigaethu.

Dilynodd Ghana traddodiadau'r Deyrnas Unedig ynghylch baneri: mae ganddi luman coch i'w ddefnyddio ar longau sifil a lluman gwyn i'w ddefnyddio ar longau lyngesol. Mae gan y mwyafrif o wledydd eraill yng Ngorllewin Affrica dim ond un faner, a ddefnyddir am bob pwrpas.

Seiliwyd lliwiau'r faner ar liwiau baner Ethiopia a ddaeth yn liwiau'r mudiad Pan-Affricanaidd dros fudiadau annibyniaeth i bobloedd ddu y cyfandir, a thu hwnt.

ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)