Sinai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sinai o'r gofod gyda Gwlff Suez i'r chwith a Gwlff Aqaba i'r de

Gorynys anial yn Yr Aifft yw Sinai, sy'n gorwedd rhwng Camlas Suez yn y gorllewin ac Israel a Llain Gaza yn y dwyrain. Yn y gogledd mae'n wynebu'r Môr Canoldir tra yn y de mae ganddi arfordir hir ar y Môr Coch sy'n terfynu yn Gwlff Suez yn y gorllewin a Gwlff Aqaba yn y dwyrain.

Ac eithrio ambell werddon werdd mae'r tir yn garregog a diffrwyth gyda bryniau yn y de a gwastadeddau yn y gogledd. Jabal Katrina (2,627 medr) yw'r pwynt uchaf, ond yr enwocaf o fynyddoedd yr ardal yw Mynydd Sinai (2285 metr, 7497 troedfedd) . Yn ôl Llyfr Exodus yn yr Hen Destament, ar y mynydd hwnnw y cafodd Moses dabledi'r Deg Deddf o law Iehofa. Saif mynachlog hynafol, sef Mynachlog Sant Catrin, sy'n enwog am ei chasgliad o lawysgrifau ger copa Mynydd Sinai. Yn ystod yr Ymerodraeth Rufeinig roedd Sinai'n rhan o dalaith Arabia Petraea â'i phrifddinas ym Mhetra (de-orllewin Gwlad Iorddonen heddiw).

Meddianwyd Sinai gan Israel yn 1956 ac eto yn Rhyfel Chwech Diwrnod ym 1967 a Rhyfel Yom Kippur 1973. Dan gytyndeb heddwch Yr Aifft ac Israel yn 1979 dychwelwyd rhan o Sinai i'r Aifft ac ym 1992 tynnodd Israel allan yn gyfangwbl. Ers hynny mae twristiaeth wedi tyfu'n gyflym ar arfordir Môr Coch Sinai ac mae'n denu miloedd o Ewropeaidd i dorheulo a darganfod y bywyd tanforol mewn trefi gwyliau fel Sharm el-Sheikh.

Flag of Egypt.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Aifft. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.